Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am y Mynegai Anabledd Plant

Rhestri o'n cwestiynau mwyaf cyffredin am y Mynegai Anabledd Plant.

 

Beth yw'r Mynegai Anabledd Plant?

Pwy all gofrestru ar y Mynegai?

Pam cael Mynegai?

Sut mae'r Mynegai yn gweithio?

Yr hyn nad yw'r Mynegai

Sut caiff yr wybodaeth ar y Mynegai ei rheoli?

Sut rydym yn ymuno â'r Mynegai?

 

 

Beth yw'r Mynegai Anabledd Plant?

Mae'r Mynegai Anabledd Plant (MAP) yn gronfa ddata gyfrinachol, ddiogel sy'n cynnwys gwybodaeth benodol am blant a phobl ifanc 0-18 oed sydd ag unrhyw anabledd 'sy'n cael effaith sylweddol ar eu bywydau bob dydd'.

Pwy all gofrestru ar y Mynegai?

Plant a phobl ifanc, o dan 18 oed, sydd ag anabledd sy'n effeithio'n sylweddol ar eu bywydau bob dydd, gan gynnwys plant ag:

  • Anhwylder Sbectrwm Awtistig    
  • Anawsterau ymddygiadol/cymdeithasol/emosiynol
  • Cyflwr meddygol        
  • Anabledd corfforol
  • Nam synhwyraidd
  • ​Anabledd/anhawster dysgu
  • Anableddau lluosog.

Pam cael Mynegai?

Dywed y gyfraith y bydd "pob awdurdod lleol yn agor ac yn cynnal cofrestr plant anabl yn eu hardaloedd".  Yn Abertawe , gelwir y gofrestr plant anabl yn 'Fynegai Anabledd Plant'.

Nod Mynegai Anabledd Plant Abertawe yw:

  • Casglu a chyflwyno gwybodaeth er mwyn cynllunio ar gyfer y blynyddoedd i ddod a'r dyfodol agos - o ysgolion a chludiant i gynlluniau gwyliau a gofal seibiant.
  • Cyflwyno gwybodaeth ystadegol i'r Llywodraeth.
  • Gweithredu fel porth i'r Awdurdod Lleol a'i bartneriaid ofyn i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd am eu barn a'r hyn mae arnynt ei eisiau (trwy ymgynghoriadau gwirfoddol).
  • Dosbarthu gwybodaeth, syniadau a newyddion trwy gylchlythyron bob dwy flynedd er mwyn helpu i sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn gwybod yr hyn sy'n digwydd yn Ninas a Sir Abertawe Sir Abertawe a sut i gael a derbyn y gwasanaethau hyn.

Sut mae'r Mynegai yn gweithio?

Mae cofrestru'n wirfoddol.

Gall rhieni, gofalwyr neu'r person ifanc ei hun, gan ddibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth, gwblhau Ffurflen Gofrestru MAP. Efallai y bydd angen help arnoch gan rywun arall sy'n adnabod y plentyn yn dda.

Ar ôl cofrestru, byddwn yn anfon copi o Gofnod Mynegai Anabledd Plant y plentyn atoch ynghyd â Cherdyn Mynegai Anabledd y Plentyn.

Er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth ar y gofrestr wedi'i diweddaru, byddwn yn gofyn i chi gwblhau Ffurflen Gofrestru MAP bob 2 flynedd.

Ar ôl i chi gofrestru, byddwn yn anfon gwybodaeth atoch fel y'i disgrifiwyd uchod. 

Gallwch ofyn am dynnu enw a manylion plentyn neu berson ifanc oddi ar y Mynegai ar unrhyw adeg.   Pan fydd y person ifanc yn cyrraedd 18 oed, caiff ei enw a'i fanylion eu tynnu oddi ar y Mynegai.  Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd hyn wedi digwydd. 

Yr hyn nad yw'r Mynegai

Os yw rhieni / gofalwr yn penderfynu rhoi enw eu plentyn ar y mynegai, nid yw'n golygu eu bod yn gymwys am wasanaethau ar wahân i wybodaeth, cyngor a chyfeirio at wasanaethau fel y disgrifir yn y ffeithlen hon.

Sut caiff yr wybodaeth ar y Mynegai ei rheoli?

Rheolir y Mynegai yn isadran Gwasanaethau Plant yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.    Oherwydd bod y Gwasanaethau Addysg ac Iechyd yn meddwl ei fod yn bwysig, maent wedi cytuno i fod yn bartneriaid i ni. 

Un o rolau pwysig y Mynegai yw rhoi gwybodaeth i'r holl asiantaethau partner i helpu i wella gwasanaethau presennol a chynllunio ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol. Dim ond data dienw, nad yw'n enwi'r plentyn/person ifanc neu'r person a gofrestrodd y plentyn/person ifanc, a rennir o dan amgylchiadau o'r fath.

Mae'r holl wybodaeth bersonol yn y Mynegai yn gyfrinachol.  Dyma sut defnyddir y data personol a gedwir ar y Mynegai:

  • Ei ddefnyddio i anfon cylchlythyr Mynegai Anabledd Plant ddwywaith y flwyddyn a gwybodaeth sy'n berthnasol i'r Mynegai, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol a ddewiswyd yn ofalus a gwahoddiadau i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau. Ni fyddwn yn rhoi manylion personol i asiantaethau a gwasanaethau eraill er mwyn iddynt gysylltu ag unigolion yn uniongyrchol.
  • Ar gael i weithiwr cymdeithasol os oes un gan y plentyn neu'r person ifanc.

Drwy gytuno gofrestru ar y Mynegai, mae'r person a gyflwynod y Ffurflen Gofrestru MAP yn cytuno y gellir defnyddio'r wybodaeth fel hyn.

Mae hawl gennych i ofyn am gael gweld y cofnodion rydym yn eu cadw amdanoch chi. Mae mwy o wybodaeth am sut rydym yn trin gwybodaeth bersonol ar y dudalen Hysbysiad preifatrwydd.

Sut rydym yn ymuno â'r Mynegai?

Ewch i:

Mynegai Anabledd Plant - cofrestru ar-lein Mynegai Anabledd Plant - cofrestru ar-lein

Neu gallwch gysylltu â'r Gweinyddwr y Mynegai Anabledd Plant.

Gall Gweinyddydd y Mynegai Anabledd Plant hefyd yn helpu gydag ymholiadau a chwestiynau sydd gennych, o gael copi o Ffurflen Gofrestru MAP i awgrymu erthyglau ar gyfer y cylchlythyr.