Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am faw cŵn

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am faw cŵn.

Cyfrifoldeb pwy yw ymdrin â baw cŵn?

Cael gwared ar wastraff ci yw cyfrifoldeb perchennog y ci.. Dan Ddeddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996, os na fydd perchennog ci neu berson sy'n gyfrifol am gi yn codi baw'r ci mewn ardal gyhoeddus (yn amodol ar rai eithriadau) ar yr adeg honno byddant yn cyflawni trosedd. Gall y troseddwr dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig neu gael ei erlyn.

Gosododd y Cyngor finiau baw cŵn er mwyn helpu i annog pobl i fod yn berchnogion cŵn cyfrifol. Rydym yn darparu nifer o finiau baw cŵn sydd wedi'u lleoli'n strategol trwy'r ardal er mwyn i berchnogion cŵn eu defnyddio wrth gerdded eu cŵn. Os nad oes bin baw cŵn ar gael, gall berchnogion cŵn hefyd ddefnyddio biniau sbwriel ar y stryd er mwyn cael gwared ar wastraff eu cŵn a /neu fynd â'r baw adref.

Bydd glanhau'n cael gwared ar faw cŵn o ardaloedd mabwysiedig mewn modd rhagweithiol ac adweithiol fel bo angen ac o fewn amseroedd ymateb targed penodol.

Faint o bobl sydd wedi derbyn dirwy gan y cyngor?

2022/23 - 2
2021/22 - 1
2020/21 - 1
2019/20 - 1
2018/19 - 0

Faint o gwynion ydych chi wedi eu derbyn ynghylch baw cŵn?

2022/23 - 456
2021/22 - 468
2020/21 - 492
2019/20 - 573
2018/19 - 598

Pwy sy'n delio â chwynion baw cŵn yn eich awdurdod lleol e.e. tîm glanháu, warden cŵn neu swyddogion gorfodi?

Ein hadran lanháu sy'n cael gwared ar y baw ac ein tim gorfodi sy'n ymdrin â gwybodaeth o ran perchnogion ac sy'n patrolio.

Beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd er mwyn mynd i'r afael â phroblemau gyda baw cŵn?

Addysg ragweithiol a rhaglenni cynnwys mewn ysgolion ac o amgylch parciau a mannau cymunedol.

Close Dewis iaith