Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am hysbysiadau o gosb addysg

Cwestiynau cyffredin am hysbysiadau o gosb sy'n ymwneud ag addysg.

Beth yw hysbysiad o gosb?

Diwry yw hysbysiad o gosb y gellir ei defnyddio yn hytrach nag erlyn rhieni/gofalwyr nad ydynt yn sicrhau bod eu plant yn mynd i'r ysgol yn rheolaidd.

Mae'r hysbysiad o gosb yn £60 os caiff ei dalu o fewn 28 niwrnod i dderbyn yr hysbysiad.

Mae hyn yn codi i £120 os caiff ei dalu ar ol 28 niwrnod ond o fewn 42 ddiwrnod i'w dderbyn.

Beth yw diben hysbysiad o gosb?

Diben hysbysiad o gosb yw gwella presenoldeb mewn ysgolion,

Bydd plentyn sy'n mynd i'r ysgol yn rheolaidd yn elwa llawer mwy o'r cyfleoedd y mae'r ysgol yn eu darparu na phlentyn nad yw'n gwneud hynny.

Mae'r gyfraith yn dweud y dylai rhieni/gofalwyr sicrhau bod y plentyn yn eu gofal yn rheolaidd ac yn cyrraedd ar amser.

Pwy sy'n derbyn hysbysiad o gosb?

Rhieni plant sydd rhwng 5 ac 16 oed (oed ysgol gorfodol) y maent yn absennol heb ganiatad yn rheolaidd. Gall hysbysiadau o gosb benodol fod yn berthnasol i'r plant hyn. Ni chant eu defnyddio ar gyfer plant oed meithrin na disgyblion sydd mewn chweched dosbarth (blwyddyn 12 a 13).

Ceir nifer o amgylchiadau dilys lle y gall ysgol roi caniatad i blentyn fod yn absennol megis salwch, teithiau ysgol a gwyliau crefyddol (os cymeradwyir y rhain, gallant fod yn absenoldeau awdurdodedig.

Pryd caiff hysbysiad o gosb ei roi?

Mae Cyngor Abertawe'n cynnig (ynghyd a chynghorau eraill ym mhartneriaeth ERW) y dylid rhoi hysbysiad o gosb dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Os na fydd plentyn wedi mynychu'r ysgol am 10 sesiwn (5 niwrnod ysgol) (neu fwy) a bod yr absenoldebau hyn yn rhai anawdurdodedig (nid yw'r ysgol wedi rhoi caniatad).
  • Pan fydd y 10 sesiwn (5 niwrnod ysgol) o absenoldeb anawdurdodedig o fewn y tymor ysgol cyfredol yn golygu bod presenoldeb cyffredinol y disgybl yn is na 90% (yn y flwyddyn ysgol hyd yma).
  • Nid oes rhaid i'r 10 sesiwn (5 niwrnod ysgol) fod yn olynol (un ar ol y llall).

a/neu

  • Os nad yw disgybl wedi mynychu am 10 sesiwn (5 niwrnod ysgol) (neu fwy) a bod yr absenoldebau hyn wedi bod ar gyfer 'gwyliau anawdurdodedig yn ystod y tymor ysgol'.
  • Bod y 10 sesiwn (5 niwrnod ysgol) o absenoldebau anawdurdodedig o fewn y flwyddyn ysgol gyfredol yn golygu bod presenoldeb cyffredinol y disgybl yn is na 90% (yn y flwyddyn ysgol hyd yma).
  • Nid oes rhaid i'r 10 sesiwn (5 niwrnod ysgol) fod yn olynol (un ar ol y llall).

a/neu

  • Mae'r disgybl wedi cyrraedd yr ysgol yn hwyr (ar ol i'r gofrestr gau) ar gyfer 10 sesiwn (neu fwy).
  • Os yw'r disgybl yn cyrraedd yn hwyr ar gyfer 10 sesiwn (neu fwy) o fewn y tymor ysgol cyfredol ac mae hynny'n golygu bod presenoldeb cyffredinol y disgybl yn is na 90% (yn y flwyddyn ysgol hyd yma).
  • Nid oes rhaid i'r 10 sesiwn fod yn olynol (un ar ol y llall).

A fyddaf yn cael hysbysiad o gosb am fynd a'm plentyn ar wyliau?

Mae gan y pennaeth ddisgresiwn i awdurdodi gwyliau. Os na chaiff y gwyliau eu hawdurdodi, yna gallech dderbyn hysbysiad o gosb os bydd y gwyliau'n golygu y bydd eich plentyn yn colli 10 sesiwn ysgol a phresenoldeb eich plentyn yn disgyn islaw 90% yn y flwyddyn ysgol hyd yma.

Sawl hysbysiad o gosb y gellir ei roi i mi mewn blwyddyn?

Tri. Gall mwy na thri olygu y gallech gael eich erlyn am ddiffyg presenoldeb yn yr ysgol o dan Ddeddf Addysg 1996..

Faint yw dirwy hysbysiad o gosb?

£60 i ddechrau ac os na chaiff ei dalu o fewn 28 niwrnod, mae'n codi i £120 i'w dalu o fewn 42 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad gwreiddiol.

Beth os nad wyf yn talu?

Yna gallech gael eich erlyn o dan Ddeddf Addysg 1996 am 'beidio a mynychu'r ysgol' nid am beidio a thalu hysbysiad o gosb.

A fyddaf yn cael hysbysiad am bod un o'm plant?

Byddwch os yw eu habsenoldebau anawdurdodedig yn bodloni'r meini prawf uchod.

A allwn i dderbyn hysbysiad o gosb am anfon fy mhlentyn i'r ysgol yn hwyr?

Gallwch, os yw hwyrni'ch plentyn yn bodloni'r meini prawf uchod.

Mae prydlondeb yn bwysig ac os yw'ch plentyn yn cyrraedd ar ol i'r cofrestrau gau, sef 30 munud ar ol dechrau'r diwrnod ysgol, yna bydd eich plentyn yn hwyr ac yn derbyn marc bod yn hwyr yn y gofrestr.

Pwy sy'n penderfynu a fydd absenoldeb yn awdurdodedig neu'n anawdurdodedig?

Mae hawl gyfreithiol gan Bennaeth ysgol benderfynu a ddylai absenoldeb plentyn fod yn awdurdodedig neu'n anawdurdodedig. Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio arweiniad i helpu penaethiaid i benderfynu.

Beth os yw fy mhlentyn yn sal ac yn colli ysgol? A fyddaf yn cael hysbysiad o gosb?

Os yw'ch plentyn yn sal gwnewch yn siwr eich bod yn hysbysu'r ysgol. Mae gan y pennaeth ddisgresiwn i awdurdodi absenoldebau yn unol a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Os nad yw'n awdurdodi'r absenoldeb, gallech dderbyn hysbysiad o gosb yw'r absenoldeb yn bodloni'r meini prawf uchod. Os oes gennych dystiolaeth feddygol megis potel foddion neu bresgripsiwn i brofi'r salwch, gwnewch yn siwr bod yr ysgol yn ei gweld, yna gellir awdurdodi'r salwch.

Beth os nad oeddwn yn sylweddoli bod absenoldeb fy mhlentyn cynddrwg a hynny?

Cyfrifoldeb rhiant yw bod yn ymwybodol o bresenoldeb eu plentyn.

Mae'r holl ysgolion yn Abertawe'n sicrhau bod rhieni'n ymwybodol o bresenoldeb eu plentyn ac os nad ydych yn siwr, gofynnwch i'r ysgol am gofnod presenoldeb eich plentyn.

A allaf apelio yn erbyn rhoi hysbysiad?

Nid oes hawl ffurfiol i apelio dan y ddeddfwriaeth. Rydym yn cynghori teuluoedd i fod yn ymwybodol o bresenoldeb eu plentyn fel nad ydynt yn derbyn hysbysiad o gosb yn y lle cyntaf.

A fydd y ddau riant yn derbyn hysbysiad o gosb?

Mae'r ddeddfwriaeth yn dweud os oes mwy nag un person yn atebol, yna rhoddir hysbysiadau o gosb ar wahan.

Beth os nad wyf yn gwybod bod fy mhlentyn heb gyrraedd yr ysgol?

Mae holl ysgolion Abertawe'n cysylltu a rhieni/gofalwyr plant sy'n absennol nad ydynt wedi ffonio'r ysgol i ddweud pam nad yw eu plentyn yn yr ysgol. Os yw'r plentyn yn chwarae triwant, hysbysir y rhieni a'u cyfrifoldeb hwy yw dod o hyd i'r disgybl a'i ddychwelyd i'r ysgol.

Pam mae Abertawe'n defnyddio hysbysiadau o gosb?

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei bod hi'n ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurdodau lleol yng Nghymru roi hysbysiadau o gosb ar waith yn y flwyddyn academaidd 2014/2015. Mae hysbysiadau o gosb yn offeryn arall i gefnogi gwella presenoldeb mewn ysgolion er mwyn i bob plentyn allu cyrraedd ei botensial addysgol.

Beth yw'r diffiniad o riant?

O dan adran 576 Deddf Addysg 1996, diffinnir rhiant fel hyn:

"Yr holl rieni naturiol, boed y rheini'n briod neu beidio, unrhyw berson, er nad yw'n rhiant naturiol, sydd a chyfrifoldeb rhiant dros blentyn neu berson ifanc ac unrhyw berson, er nad yw'n rhiant naturiol, sy'n gofalu am blentyn neu berson ifanc. (Mae gofalu am blentyn neu berson ifanc yn golygu yr ystyrir y person y mae'r plentyn yn byw gydag ef ac sy'n gofalu am y plentyn, beth bynnag fo'i berthynas a'r plentyn, yn rhiant o dan y gyfraith addysg.)"

Pwy sy'n gallu rhoi hysbysiad o gosb?

Dim ond yr awdurdod lleol all roi hysbysiad o gosb.