Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am y gwasanaeth lles addysg

Cwestiynau cyffredin am y gwasanaeth lles addysg.

Ai fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod fy mhlentyn yn mynychu'r ysgol?

Mae gan rieni ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod eu plant yn cael eu haddysgu.

Dywed y gyfraith os yw plentyn o oedran ysgol gorfodol wedi'i gofrestru fel disgybl mewn ysgol yn methu a mynychu'n gyson, mae'r rhiant yn euog o drosedd. (Deddf Addysg 1996, Adran 444(1)).
Bydd presenoldeb cyson yn yr ysgol yn hanfodol i gyflawniadau posibl eich plentyn, a'i ddewisiadau bywyd yn y dyfodol. Os nad yw plentyn yn mynychu'r ysgol, ac nid oes rheswm derbyniol dros yr absenoldebau, ystyrir achos cyfreithiol mewn Llys Ynadon yn erbyn y rhiant.

Rhoddir llythyron rhybudd yn yr achos hwn.

Pwy all roi cymorth a chyngor i mi ynghylch anawsterau presenoldeb ysgol?

Mae Swyddogion Lles Addysg ar gael i gynig cyngor a chefnogaeth i rieni a disgyblion ar amrywiaeth o faterion yn y cartref ac/neu'r ysgol.

Mae Swyddogion Lles Addysg ym mhob ysgol uwchradd, a gellir cysylltu a nhw drwy ysgol eich plentyn neu drwy gysylltu a Gwasanaeth lles addysg.

Pwy sy'n delio a thrwyddedu perfformiad?

Nid yw Swyddogion Lles Addysg yn prosesu nac yn cymeradwyo trwyddedau perfformiad, ond gallant gysylltu a rhieni os yw gallu academaidd plentyn yn cael ei effeithio gan blentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad.

Gweler ein hadran ar Cyflogaeth plant neu Trwyddedu perfformio plant .

Beth ddylwun ei wneud os mae fy mhlentyn eisiau gweithio'n rhan-amser tra yn yr ysgol?

Mae'r Tim Swyddogion Lles Addysg yn prosesu ceisiadau am drwyddedau cyflogaeth plentyn.
Rhaid i bob plentyn sydd am weithio tra o oedran ysgol gorfodol gael trwydded cyflogaeth plentyn.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch a'r Swyddog Cyflogaeth Plant.

Beth ddylwn ei wneud os mae fy mhlentyn eisiau mynd i ysgol wahanol?

Gallwch fynegi eich ysgol o ddewis yn hytrach na'r ysgol ddalgylch leol. Cyn penderfynu symud eich plentyn, rydym yn argymell eich bod yn trafod eich rhesymau gyda'r ysgol, y Swyddog Lles Addysg, neu'n cysylltu a'r Uned Ysgolion a Llywodraethwyr.

Gall symud i ysgol arall fod yn anfantais i ddisgyblion drwy darfu ar eu haddysg.

Cysylltwch a'r Yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr.

A phwy ddylwn gysylltu os yw fy mhlentyn yn cael ei wahardd?

Mae gwybodaeth ar gael i rieni ac i ddisgyblion am waharddiad o'r ysgol.

Os oes angen cyngor neu gymorth arnoch ar unrhyw adeg sy'n ymwneud a gwaharddiadau, cysylltwch a'r Yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr.

Gall y Swyddog Lles Addysg hefyd roi gwybodaeth a chefnogaeth i chi os bydd eich plentyn yn cael ei wahardd.

Gallwch gysylltu a'ch Swyddog Lles Addysg drwy ysgol eich plentyn.  Mae Swyddogion Lles Addysg mewn ysgolion uwchradd.  Gallwch hefyd gysylltu a'r Prif Swyddog Lles Addysg.

Beth ddylwn ei wneud os nad yw fy mhlentyn yn gallu mynychu'r ysgol?

Os yw eich plentyn yn dost neu'n methu a mynd i'r ysgol am unrhyw reswm, dylech gysylltu ag ysgol y plentyn ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb.

Os oes gennych broblemau sy'n effeithio ar bresenoldeb eich plentyn, dylech hysbysu'r ysgol.  Bydd staff ar gael i roi cymorth a chyngor i chi.

Bydd y Swyddog Lles Addysg hefyd yn gallu'ch cynghori a chynnig cefnogaeth.

Gallwch gysylltu a'ch Swyddog Lles Addysg drwy ysgol eich plentyn.  Mae Swyddogion Lles Addysg mewn ygolion uwchradd.   Gallwch hefyd gysylltu a'r  Prif Swyddog Lles Addysg.

Beth dylwn ei wneud os ydw i'n dymuno mynd â'm plentyn ar wyliau yn ystod y tymor?

Mae'r awdurdod lleol yn gwbl gefnogol o'r ymgyrch genedlaethol i gynyddu presenoldeb ysgol, gan gydnabod y cyswllt hollbwysig rhwng presenoldeb a chyrhaeddiad. Mae eisoes yn amlwg o ddata presenoldeb parhaus hyd yma bod y strategaeth o annog rhieni i beidio â mynd ar wyliau yn ystod y tymor wedi arwain at welliant sylweddol mewn presenoldeb ar draws ysgolion yn Ninas a Sir Abertawe. 

Felly mae'r awdurdod lleol yn bwriadu parhau â'r strategaeth hon fel rhan o'i ymgyrch i gynyddu presenoldeb ysgol. Er y caiff ceisiadau unigol eu hystyried yn gyffredinol, ni fydd y pennaeth yn caniatáu unrhyw absenoldeb oherwydd gwyliau yn ystod y tymor, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Mae hyn yn golygu y bydd absenoldebau oherwydd bod disgyblion wedi mynd ar wyliau yn ystod y tymor yn cael eu cofnodi fel absenoldebau heb ganiatâd. 

Close Dewis iaith