Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am gytiau traeth Langland

Cwestiynau cyffredin am gytiau traeth Bae Langland.

Sut ydw i'n casglu fy allweddi?

Mae trwydded cwt yn dechrau ac yn gorffen ar ddiwrnod olaf y cyfnod fel y nodir isod:

  • 30 Mawrth 2024 - 27 Mawrth 2025 (12 mis) - cost rhentu'n £2,099
  • 30 Mawrth 2024 - 31 Ionawr 2025 (10 mis) - cost rhentu'n £1,799
  • 30 Mawrth 2024 - 28 Mehefin 2024 (3 mis) - cost rhentu'n £620
  • 1 Gorffennaf 2024 - 28 Medi 2024 (3 mis) - cost rhentu'n £620     
  • 1 Hydref 2024 - 31 Ionawr 2025 (4 mis) - cost rhentu'n £425  
  • 1 Hydref 2024 - 27 Mawrth 2025 (6 mis) - cost rhentu'n £620

Ar fore eich cyfnod gosod byddwch yn derbyn e-bost gyda chôd ar gyfer clo cyfunrhif i gael mynediad i'ch cwt traeth. Mae'r côd yn arbennig ar gyfer eich cwt chi ac ni ellir ei ddefnyddio i gael mynediad i unrhyw gwt arall. Peidiwch â newid y côd na thynnu'r clo. Os bydd gennych unrhyw broblemau wrth gael mynediad i'ch cwt traeth gallwch gysylltu â chyngor Abertawe ar; 07970 322797 / 07900 702794 neu e-bostiwch Gosod.Parciau@abertawe.gov.uk

Ar ddiwedd eich cyfnod gosod sicrhewch fod eich cwt yn wag a bod y clo cyfunrhif wedi'i osod ar y drws.

Sut ydw i'n gwneud cais am gwt?

Mae ceisiadau ar gael ar-lein ym mis Ionawr bob blwyddyn. Mae'r broses ymgeisio yn cau ddechrau mis Chwefror a chaiff enwau eu tynnu o het wrth ddyrannu cytiau, i sicrhau tegwch. Byddwn yn anfon e-bost atoch i ddweud wrthych a ydych wedi bod yn llwyddiannus a bydd gennych 10 niwrnod i wneud eich taliad a sicrhau eich archeb. 

Pa mor hygyrch yw'r cytiau?

Mae gan gytiau 1-10 lethr laswelltog o'u blaenau, ond gellir eu cyrraedd ar lwybr sy'n rhedeg i ochr rhif 10. Mae mannau parcio i'r anabl y tu ôl i'r bloc cytiau. Gellir mynd i mewn i gytiau 11-20 trwy ddefnyddio'r grisiau. Y cytiau o 80 yn ôl sydd agosaf at y toiledau cyhoeddus.

Ydy'r cytiau'n cynnwys trydan a dŵr?

Nid oes gan y cytiau drydan na phrif gyflenwad dŵr.

A allaf ddewis y cwt rwy'n ei gael?

Wrth ddyrannu cytiau, caiff enwau eu tynnu ar hap i sicrhau bod pawb yn cael cyfle cyfartal. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw ofynion arbennig y mae angen i ni eu hystyried, gellir crybwyll hyn.

A allaf ddefnyddio barbeciwiau o flaen fy nghwt?

Rydym yn eich cynghori i beidio â defnyddio barbeciwiau o flaen y cytiau. Dylai'r llwybr cerdded o flaen y cwt gael ei gadw'n glir bob amser er mwyn sicrhau bod yr hawl tramwy yn cael ei chynnal.  

A ganiateir cŵn ar y traeth?

Mae gan Fae Langland gyfyngiad tymhorol ar ganiatáu cŵn. Mae hyn yn golygu na chaniateir i gŵn ddefnyddio'r traeth rhwng 1 Ebrill a 30 Medi.  

A allaf wneud unrhyw newidiadau yn y cwt e.e. gosod silffoedd?

Ni chaniateir unrhyw newidiadau parhaol i'r cytiau. Rhaid tynnu unrhyw ddodrefn sydd y tu mewn i'r cwt hefyd ar ddiwedd eich trwydded.

Sut ydw i'n adrodd am ddifrod?

Rhaid adrodd am unrhyw ddifrod i adran Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe ar 07970 322797 / 07900 702794 neu ebost parks.lettings@swansea.gov.uk.

Pa gyfleusterau sydd gerllaw? 

Mae gan y traeth nifer o gaffis a bwytai sy'n gwerthu lluniaeth, ynghyd â chyfleuster toiled a chawod ar ochr ddwyreiniol y traeth ger cwt rhif 80.

A allaf ddefnyddio fy nghwt traeth i arddangos posteri neu i hysbysebu?

Ni chaniateir unrhyw hysbysebu ar y cytiau ac yn allanol rhaid i bob cwt aros yr un peth â phan wnaethoch chi ei dderbyn.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Rhagfyr 2023