Toglo gwelededd dewislen symudol

Cytiau traeth Bae Langland

Cytiau traeth yn Langland ar gyfer tymor 2023/2024.

Mae pob cwt yn llawn ar gyfer Gaeaf 2022/23 felly peidiwch â ffonio nac e-bostio. Mae galw mawr am y cytiau, felly rydym yn cyfyngu pob cartref yn Ninas a Sir Abertawe i un cais y tymor - mae angen prawf o'ch cyfeiriad. 

Mae ceisiadau bellach ar gau ar gyfer 2023

Rhentu yn ystod 2023 / 2024:

  • 31 Mawrth 2023 - 26 Mawrth 2024 (12 mis) - cost rhentu'n £1,999
  • 31 Mawrth 2023 - 31 Ionawr 2024 (10 mis) - cost rhentu'n £1,725   
  • 31 Mawrth 2023 - 29 Mehefin 2023 (3 mis) - cost rhentu'n £599    
  • 1 Gorffenaf 2023 - 28 Medi 2023 (3 mis) - cost rhentu'n £599       
  • 1 Hydref 2023 - 31 Ionawr 2024 (4 mis) - cost rhentu'n £415  
  • 1 Hydref 2023 - 26 Mawrth 2024 (6 mis) - cost rhentu'n £599 

Sylwer:

  • ni chyflenwir trydan neu ddŵr i'r cytiau dydd hyn
  • nid yw ffïoedd parcio ceir yn gynwysedig yn ffi rhentu'r cwt

Does dim gwasanaethydd ar gael yn Langland yn ystod y tymor. Dylid adrodd am unrhyw broblemau gyda'r cytiau'n uniongyrchol i aelod o staff trwy ffonio 07970 322797 / 07900 702794 neu e-bostio parks.lettings@swansea.gov.uk

Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn gwneud cais?

Rydym yn dyrannu'r cytiau ym mis Mawrth, a gwneir hyn trwy dynnu rhifau ar hap (ni allwch gadw'ch cwt). Os ydych yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi gwybod i chi trwy e-bost a fydd yn cynnwys dolen i wneud eich taliad.

Amodau a thelerau cytiau traeth Langland

Gall torri'r amodau a'r telerau hyn arwain at weddill yr archeb yn cael ei chanslo heb ad-daliad am unrhyw ran o'r ffi hurio.

Cwestiynau cyffredin am gytiau traeth Langland

Cwestiynau cyffredin am gytiau traeth Bae Langland.
Close Dewis iaith