Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Pobl ifanc Plas-marl yn dathlu eu hardal chwarae wedi'i thrawsnewid

Mae pobl ifanc mewn cymuned yn Abertawe yn dathlu agoriad swyddogol eu hardal chwarae leol boblogaidd ar ei newydd wedd.

cwm level play area official opening

Mae'r ardal chwarae ym Mharc Cwm Lefel ym Mhlas-marl wedi'i thrawsnewid o fan agored diflas i hafan ar gyfer teuluoedd lleol sy'n chwilio am fan diogel i'w plant chwarae a chwrdd â ffrindiau ynddo.

Mae'r ardal chwarae yn un o fwy na 50 o gymdogaethau ar draws y ddinas sydd wedi elwa o raglen uwchraddio ardaloedd chwarae gwerth £7m Cyngor Abertawe ac fe'i hagorwyd yn swyddogol gan Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart.

Mae'r ardal chwarae hon yn cynnwys siglenni, rowndabowt ac uned aml-chwarae yn ogystal â thrampolîn a chyfarpar chwarae arall i bobl ifanc eu mwynhau. Mae hefyd meinciau picnic ac ardaloedd eistedd newydd lle gall y plant neu eu rhieni a'u gofalwyr gael seibiant neu sgwrs.

I gael rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad mwyaf erioed y Cyngor mewn ardaloedd chwarae, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/lleoeddchwaraenewydd

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Awst 2025