
Cŵn ar y traeth
Mae cyfyngiadau ar gŵn ar rai traethau a rhannau o'r arfordir yn Abertawe.
Mae digonedd o draethau yn Abertawe ac rydym am i bawb eu mwynhau trwy gydol y flwyddyn. Dyna pam, bob blwyddyn, o 1 Mai i 30 Medi y daw is-ddeddf i rym sy'n cyfyngu ar gŵn a'u perchnogion i draethau 'addas ar gyfer cŵn' yn unig.
Mae'r tabl isod yn dangos ar ba draethau y caniateir cŵn trwy gydol y flwyddyn ac ar ba draethau na chaniateir cŵn rhwng mis Mai a mis Medi.
Mae perchnogion cŵn nad ydynt yn cadw at draethau sy'n addas ar gyfer cŵn mewn perygl o gael hysbysiad o gosb benodol neu ddirwy.
Beth bynnag yw adeg y flwyddyn - os ymwelwch â'r traeth gyda'ch ci, cofiwch lanhau ar ei ôl.
Traethau lle caniateir cŵn trwy gydol y flwyddyn - wedi'u dangos mewn gwyrdd ar y map isod | Traethau lle na chaniateir cŵn rhwng 1 May a 30 Medi (cynhwysol) - wedi'u dangos mewn coch ar y map isod |
---|---|
|
Nid yw'r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i gŵn tywys i'r dall. |
View Dogs on beaches in a larger map
Cŵn ar denynnau
Mae rhai cyfyngiadau ar waith o ran cadw cwn ar dennyn hefyd. Mae angen i chi gadw eich ci ar dennyn ar:
- Y promenâd cyfan ym Mae Abertawe (o Afon Tawe i faes parcio Knab Rock, y Mwmbwls)
- Y promenâd ym Mae Langland a Rotherslade
- Y promenâd ym Mae Caswell.
Os nad ydych yn cadw eich ci ar dennyn gallech gael hysbysiad o gosb benodol.