Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cŵn ar y traeth

O 1 Mai i 30 Medi mae cyfyngiadau ar gyfer cŵn a'u perchnogion sy'n caniatáu iddynt ddefnyddio traethau sy'n 'addas i gŵn' yn unig.

Mae hyn yn golygu yn ystod y cyfnod hwn ni chaniateir cŵn ar y traethau canlynol:

  • Bae Abertawe
    • o Afon Tawe i'r Slip gyferbyn â Pharc Victoria
    • o fynediad i'r traeth yn Lôn Sgeti i ymyl ogleddol y Slip ger Tafarn y West Cross
  • Bae Bracelet
  • Bae Limeslade
  • Bae Rotherslade
  • Bae Langland
  • Bae Caswell
  • Traeth Port Einon
    • o ymyl dwyreiniol y grisiau i draeth Port Einon i ymyl dwyreiniol y fynedfa i draeth Horton

Nid yw'r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i gŵn tywys i'r dall..

Caniateir cŵn ar y traethau canlynol trwy gydol y flwyddyn:

  • Bae Abertawe o'r Slip gyferbyn â Pharc Victoria i'r mynediad i'r traeth yn Lôn Sgeti
  • Horton o'r Orsaf Achub Bywydau i'r dwyrain tuag at Oxwich
  • Mwmbwls
  • Pwll Du
  • Pobbles
  • Three Cliffs
  • Tor Bay
  • Crawley
  • Oxwich
  • Mewslade
  • Rhossili
  • Llangynydd
  • Broughton
  • Whiteford Sands
  • Porth Einon o'r prif risiau i'r gorllewin i'r Tŷ Halen

Cŵn ar denynnau

Mae rhai cyfyngiadau ar waith o ran cadw cwn ar dennyn hefyd. Mae angen i chi gadw eich ci ar dennyn ar:

  • Y promenâd cyfan ym Mae Abertawe (o Afon Tawe i faes parcio Knab Rock, y Mwmbwls)
  • Y promenâd ym Mae Langland a Rotherslade
  • Y promenâd ym Mae Caswell.

Os nad ydych yn cadw eich ci ar dennyn gallech gael hysbysiad o gosb benodol.

Close Dewis iaith