Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog
Nod y Cyfamod Cymunedol yw annog cymunedau lleol i gefnogi'r gymuned wasanaethu yn eu hardal a meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd am faterion sy'n effeithio ar gymuned y Lluoedd Arfog.
I Ddinas a Sir Abertawe a sefydliadau partner, mae'r Cyfamod Cymunedol yn rhoi cyfle iddynt roi eu gwybodaeth, eu profiad a'u harbenigedd ar waith wrth ddarparu cymorth a chyngor i aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog. Mae hefyd yn rhoi cyfle i adeiladu ar waith da presennol a mentrau eraill megis y Llwybr Lles.
Sut gallaf gael y cymorth y mae ei angen arnaf?
Mae amrywiaeth eang o wasanaethau sydd wedi'u dylunio'n arbennig ar gyfer cymuned y lluoedd arfog sydd ar gael o'r llywodraeth leol, y Weinyddiaeth Amddiffyn a sefydliadau trydydd sector, ond yn aml gall fod yn anodd dod o hyd i'r sefydliadau gorau i helpu.
I wneud pethau'n haws i ddefnyddwyr, defnyddiwch ein Gwasanaeth Llyfrgell y Lluoedd Arfog i ddod o hyd i sefydliadau cenedlaethol a lleol a fydd yn gallu eich helpu drwy roi cyngor ar bynciau megis addysg, budd-daliadau, cefnogaeth ofal, gyrfaoedd, cefnogaeth ariannol, pensiynau, benthyciadau a lles yn gyffredinol. Mae cyfeiriadau e-bost a gwefannau ar gael drwy glicio ar fotwm.
Cysylltiadau allweddol
I'r rhai ohonoch sydd am gael manylion am ysgolion lleol, deintyddion, llyfrgelloedd, fferyllfeydd etc yn Ninas a Sir Abertawe ac ardaloedd cyfagos, defnyddiwch ein tudalen cysylltiadau allweddol.
Y Cynllun Grantiau Cyfamod Cymunedol
Mae Cynllun Grantiau'r Cyfamod Cymunedol yn rhoi cefnogaeth ariannol i brosiectau lleol sy'n atgyfnerthu'r cysylltiadau neu'r gyd-ddealltwriaeth rhwng aelodau cymuned y Lluoedd Arfog a'r gymuned ehangach lle maent yn byw.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: Gynllun Grantiau'r Cyfarmod: Sut mae gwneud cais.
Siaradwch ag un o'n haelodau staff gwybodus yn y cyngor a fydd yn gallu mynd i'r afael â'ch holl ymholiadau: 01792 636000.