Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfleoedd noddi a masnach

Byddwch yn bartner â ni a chodwch broffil eich cwmni, gan gynyddu ymwybyddiaeth o'ch cwmni a chryfhau eich brand i'ch cwsmeriaid a'ch cymuned.

Mae Abertawe'n lle i wneud busnes, yn rhywle i fyw, astudio neu fynd ar wyliau ac mae hefyd yn gartref i Glwb Uwch-gynghrair Pêl-droed Dinas Abertawe.Mae Abertawe'n cynnig cydbwysedd unigryw gydag amgylchedd ac ymagwedd ysgogol ac ysbrydoledig.

Byddwch yn bartner gyda manteision...

  • Mae'n gyfle i chi achub y blaen ar eich cystadleuwyr
  • Datblygu delwedd eich cwmni gan atgyfnerthu ei enw da a'i hygyrchedd
  • Meithrin partneriaeth tymor hir â Dinas a Sir Abertawe a datblygu'r berthynas rhwng eich cwmni a'r gymuned
  • Cyfle i'ch cwmni gael cysylltiad â darparwyr eraill o safon
  • Eich cwmni o flaen miloedd o gwsmeriaid newydd posib

Gallwch hysbysebu eich brand mewn maes parcio neu safle parcio a theithio cyfan; cynyddu ymwybyddiaeth ar faneri polion lampau; noddi cylchfan; citiau chwaraeon; cybiau brecwast mewn ysgolion neu weithgareddau ar ôl ysgol; gwasanaethau priffyrdd yn ystod y gaeaf; neu gallwch hyd yn oed fod yn bartner mewn addysg neu yn ystod tymor pantomeim Theatr y Grand - mae llu o gyfleoedd.

Ffoniwch Karen ar 01792 635457.

Noddi

Mae ein cyfleoedd noddi yn cynnig mwy o gyhoeddusrwydd i chi nag unrhyw ddarparwr arall yn ardal Abertawe.

Hyrwyddiadau a gweithgarwch masnachol

Hyrwyddwch eich busnes drwy roi nwyddau/gwasanaethau am ddim, cynnal arddangosfa yng nghanol y ddinas neu drefnu te-parti ar gylchfan.

Cyswllt nawdd, hysbysebu a hyrwyddiadau

Enw
Karen Betts
Teitl y Swydd
Rheolwr Masnachol
Rhif ffôn
07919 626729
Close Dewis iaith