Toglo gwelededd dewislen symudol

Hyrwyddiadau a gweithgarwch masnachol

Hyrwyddwch eich busnes drwy roi nwyddau/gwasanaethau am ddim, cynnal arddangosfa yng nghanol y ddinas neu drefnu te-parti ar gylchfan.

Gallwn eich helpu chi gyda chanfasio, rhentu tymor hir ym Marchnad Abertawe, dosbarthu taflenni neu hurio cyfleusterau ysgolion.

Beth bynnag fo'ch syniadau, cysylltwch â'r Tîm Masnachol neu llenwch ein ffurflen ymholiadau am noddi, hysbysebu a hyrwyddiadau.

Cyfnewid masnach

Mae mwy a mwy o gwmnïau'n cyfnewid masnach ac mae'r ddau sefydliad yn elwa ar hyn. Dyma offeryn ariannol a marchnata newydd ar gyfer cyflawni nodau ac amcanion penodol.

Stondinau masnach Sioe Awyr Cymru 2024

Bydd y Sioe Awyr yn dychwelyn i'r awyr dros Fae eiconig Abertawe ar 6 - 7 Gorffennaf 2024. Bydd yn cynnwys rhai o'r timau arddangos mwyaf a gorau yn y byd Sioeau Awyr, 2 km o arddangosiadau ar y tir ac ardaloedd masnachu, a'r cyfan yn erbyn cefndir anhygoedl Bae Abertawe.

Cyswllt nawdd, hysbysebu a hyrwyddiadau

Enw
Karen Betts
Teitl y Swydd
Rheolwr Masnachol
Rhif ffôn
07919 626729

Hysbysebu ar wefan abertawe.gov.uk

Mae 20% o le ar gael ar wefan y cyngor i osod baneri, gan ganiatáu i hyd at bum hysbysebwr gael 4% o'r lle hysbysebu bob dydd.
Close Dewis iaith