Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyfleoedd noddi a masnachol

Partnerwch â ni i hyrwyddo'ch brand a chael effaith barhaol...

Mae Abertawe'n ddinas fywiog ar gyfer busnes, yn lle ffyniannus i fyw ac yn ganolfan ar gyfer addysg ac arloesi. Drwy bartneru â ni, gall eich sefydliad godi ei broffil, gellir cynyddu amlygrwydd y brand, ymgysylltu â'n cynulleidfaoedd a dangos ymrwymiad ystyrlon i werthoedd cymdeithasol a chymuned.

Manteision allweddol partneriaeth

  1. Gwahaniaethu eich brand oddi wrth gystadleuwyr drwy lwyfannau hyrwyddo pwrpasol
  2. Atgyfnerthu hygrededd a dangos cyfrifoldeb corfforaethol
  3. Sefydlu partneriaethau tymor hir â Chyngor Abertawe a rhanddeiliaid cymunedol
  4. Cydweithio ochr yn ochr â phartneriaid lleol a chenedlaethol eraill sy'n uchel eu parch
  5. Cyrraedd miloedd o ddarpar gwsmeriaid, gan gynnwys mwy na 36,000 o fyfyrwyr a phoblogaeth gynyddol o breswylwyr ac ymwelwyr

Cyfleoedd noddi a hysbysebu

Rydym yn cynnig ystod eang o opsiynau hyblyg i weddu i bob amcan a chyllideb farchnata, gan gynnwys:

  • baneri polion lampau i hysbysebu'ch cwmni mewn lleoliadau poblogaidd ledled y sir
  • nawdd ar gylchfannau i arddangos eich brand ar draws llwybrau trafnidiaeth allweddol
  • cyfleoedd i noddi digwyddiadau lle bydd eich brand yn amlwg ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd mawr

Partneru â digwyddiadau arobryn

Mae gennym hanes balch o gyflwyno digwyddiadau mawr arobryn sy'n denu cynulleidfaoedd mawr a sylw'r cyfryngau. Mae eich cefnogaeth yn ein helpu i barhau i gynnal y profiadau o ansawdd uchel hyn wrth gynnig sylw gwerthfawr i'ch busnes a manteision hyrwyddol.

Mae digwyddiadau mawr yn cynnwys:

  • Gŵyl Croeso
  • Sioe Awyr Cymru
  • Sinema Awyr Agored
  • Theatr Awyr Agored
  • Amplitude
  • Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe
  • Ras 10K Bae Abertawe
  • Digwyddiadau Nos Galan Gaeaf
  • Arddangosfa Tân Gwyllt
  • Gorymdaith y Nadolig

Mae pecynnau nawdd pwrpasol ar gael i weddu i ystod eang o gyllidebau a gellir eu teilwra i gyrraedd eich nodau marchnata penodol.

Cysylltwch â ni

I archwilio cyfleoedd nawdd neu hysbysebu, cysylltwch â'n Tîm Masnachol. Rydym yma i helpu i ddatblygu partneriaeth sy'n cyd-fynd â'ch strategaeth busnes ac yn cyflawni canlyniadau mesuradwy.

E-bost: masnachol@abertawe.gov.uk

Stondinau masnach Sioe Awyr Cymru 2025

Bydd y Sioe Awyr yn dychwelyn i'r awyr dros Fae eiconig Abertawe ar 5 - 6 Gorffennaf 2025. Bydd yn cynnwys rhai o'r timau arddangos mwyaf a gorau yn y byd Sioeau Awyr, 2 km o arddangosiadau ar y tir ac ardaloedd masnachu, a'r cyfan yn erbyn cefndir anhygoedl Bae Abertawe.

Cofrestru i dderbyn e-byst oddi wrth y gwasanaethau masnachol

Cofrestrwch yma i dderbyn e-byst oddi wrth y gwasanaethau masnachol.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Mai 2025