Cyflogaeth plant
Os yw eich plentyn am gael gwaith rhan-amser cyflogedig tra'i fod yn dal yn yr ysgol mae sawl rheol yn berthnasol.
Mae'r gofynion cyfreithiol hyn yn sicrhau bod y bobl ifanc yn cael eu cofrestru'n gywir ac nad ydynt yn ymgymryd â gwaith a allai niweidio eu hiechyd, eu rhoi mewn perygl corfforol na chael effaith wael ar eu haddysg.
Y dyddiad swyddogol ar gyfer gadael yr ysgol yw dydd Gwener olaf mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol pan fydd y disgybl yn 16 oed. Cyn y dyddiad hwn gall pobl ifanc rhwng 13 a 16 oed gyflwyno cais am drwydded waith ar gyfer unrhyw waith rhan-amser cyflogedig. Mae'n rhaid cwblhau ffurflen gais a'i llofnodi gan y rhieni a'r cyflogwr.
Os yw'r math o waith yn addas a bod yr oriau gweithio o fewn y terfynau penodol, bydd trwydded waith yn cael ei rhoi.
Am wybodaeth bellach a ffurflen gais gallwch glicio ar y dogfennau ar ochr-dde y dudalen hon neu fel arall gallwch gysylltu a'r child.employment@abertawe.gov.uk.
Cyflogaeth plant - y weithdrefn ymgeisio
Swyddog Cyflogaeth Plant
- Enw
- Jonathan Martin / Lindsay Jones
- Teitl y Swydd
- Swyddog Cyflogaeth Plant
- E-bost
- child.employment@abertawe.gov.uk
- Rhif ffôn
- 01792 637648