Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfrifiad 2011: Ystadegau allweddol ar gyfer wardiau ac ardaloedd eraill

Mae'r dudalen hon yn darparu'r wybodaeth allweddol o Gyfrifiad 2011 a nodweddion y boblogaeth leol ar gyfer wardiau Abertawe ac ardaloedd eraill.

Cyhoeddwyd Ystadegau Allweddol a Chyflym o Gyfrifiad 2011 ar gyfer wardiau a daearyddiaethau eraill gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn ystod 2013.  Mae'r wybodaeth wedi'i defnyddio i lunio crynodeb o broffiliau Cyfrifiad 2011 o bob un o'r 36 o wardiau (ar yr adeg honno) yn Ninas a Sir Abertawe. 

Mae'r meysydd pwnc eang ym mhob proffil yn:

  • Strwythur poblogaeth ac oedran 
  • Statws priodas/partneriaeth sifil 
  • Sgiliau Cymraeg 
  • Gwlad enedigol 
  • Grwp ethnig a chrefydd 
  • Iechyd a gofal 
  • Cymwysterau 
  • Statws economaidd a chyflogaeth yn ôl diwydiant/galwedigaeth 
  • Dull teithio i'r gwaith ac oriau a weithir 
  • Aelodau, deiliadaeth, daliadaeth ac amwynderau'r cartref 
  • Math o lety.

At ddibenion cymharu, lluniwyd proffiliau cyfwerth ar gyfer  Dinas a Sir Abertawe (PDF) [107KB] a  Chymru (PDF) [107KB].  Mae proffiliau Cyfrifiad 2011 hefyd wedi'u paratoi ar gyfer ardaloedd lleol eraill yn Abertawe, gan gynnwys y tair Ardal Etholaethol leol - Gŵyr (PDF) [107KB], Dwyrain Abertawe (PDF) [107KB] a Gorllewin Abertawe (PDF) [107KB].  Mae ffeil ' Rhestr o Dermau Cyfrifiad 2011 (PDF) [87KB]' ar gael hefyd, sy'n darparu mwy o wybodaeth ar bob pwnc proffil eang ynghyd â diffiniadau.

Mae gwybodaeth ward Cyfrifiad 2011 ar gael fel cyfres o  Ddangosyddion Allweddol (PDF) [1MB], hefyd, sy'n darparu dadansoddiad o amrywiol nodweddion poblogaeth, economaidd ac aelwydydd ar gyfer y 36 o wardiau yn Abertawe ar sail graddfa.

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch neu gyngor ar argaeledd data lleol o Gyfrifiad 2011 ar gyfer ardaloedd yn Abertawe, cysylltwch â ni.