Y Cyfrifiad
Y Cyfrifiad yw'r arolwg sengl mwyaf o boblogaeth y DU.
Ei nod yw cyfrif pob person a chartref ar yr un pryd, a gofyn cyfres graidd o gwestiynau er mwyn cymharu gwahanol ardaloedd o'r wlad a grwpiau gwahanol o bobl.
Mae gwybodaeth y Cyfrifiad yn galluogi llywodraeth ganolog a lleol i dargedu adnoddau a chynllunio darparu gwasanaethau yn fwy effeithiol. Mae hefyd yn darparu ystod eang o wybodaeth ddemograffig, gymdeithasol ac economaidd at ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill, y sectorau busnes ac academaidd a'r gymuned.
Mae'r Cyfrifiad wedi'i gynnal ar un diwrnod penodol bob 10 mlynedd ers 1801, gan golli ond un a hynny ym 1941 (yn ystod yr Ail Ryfel Byd). Yng Nghymru a Lloegr, cynhelir y cyfrifiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar hyn o bryd. Yn ardaloedd eraill y DU, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol.
Census 2021: Canlyniadau cyntaf wedi'u cyhoeddi.
Cyhoeddodd SYG ganlyniadau'r cyfrifiad cyntaf ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr ar 28 Mehefin 2022. Am ragor o wybodaeth am y canlyniadau cychwynnol ar gyfer Abertawe, ewch i www.abertawe.gov.uk/Cyfrifiad2021_canlyniadau.
Mae gwybodaeth gefndir am Gyfrifiad 2021 ar gael yn www.abertawe.gov.uk/cyfrifiad2021.
Cyfrifiad 2011: Gwybodaeth ac ystadegau lleol.
Ystadegau lleol a gwybodaeth o Gyfrifiadau cynharach: 2001 a 1991.