Proffiliau ardal
Gwybodaeth amlinellol am Ddinas a Sir Abertawe a'i ardaloedd lleol.
Mae'r proffiliau'n dod ag amrywiaeth o wybodaeth ystadegol allweddol a gwybodaeth arall am ardaloedd lleol yn Abertawe ynghyd. Mae proffiliau ar gael ar gyfer yr ardaloedd daearyddol canlynol ar hyn o bryd:
- 36 Ward Etholiadol Abertawe (hyd at fis Mai 2022*), a rhywbeth cyfwerth ar gyfer Dinas a Sir Abertawe
- y tair ardal etholaethol leol (Senedd y DU/Cynulliad Cymru)
- chwe 'ardal gymunedol' (a ddefnyddiwyd yn Asesiad o Les Lleol 2017 Abertawe)
- pum 'ardal gyflwyno' yn Abertawe (clystyrau Cymunedau'n Gyntaf gynt)
Defnyddir amrywiaeth eang o ffynonellau data i lunio'r proffiliau ac mae eu cynllun safonedig yn golygu y gellir cymharu ardaloedd. Caiff ffigur ar gyfer Abertawe neu ffigur cyfartalog ei gynnwys hefyd lle bo'n briodol.
Os oes angen gwybodaeth neu gyngor ychwanegol arnoch am y proffiliau hyn neu argaeledd data ar gyfer ardaloedd yn Abertawe, cysylltwch â ni. Rydym yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu a gwella'r proffiliau'n rheolaidd felly byddem yn croesawu unrhyw adborth neu awgrymiadau hefyd.
*Sylwer, mae ffiniau wardiau yn Abertawe wedi newid yn dilyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022. Caiff proffiliau sy'n seiliedig ar ffiniau'r wardiau newydd eu datblygu cyn gynted â phosib.