Proffiliau Wardiau Abertawe
Mae proffiliau pob un o'r 36 ward etholiadol yn Abertawe ar gael o'r dudalen hon.
Mae proffiliau ward yn cyfuno amrywiaeth o wybodaeth ystadegol allweddol a gwybodaeth arall am bob ward etholiadol yn Abertawe. Maen nhw'n defnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau data ac mae eu cynlluniau safonol yn galluogi cymharu ardaloedd yn gyflym ac yn rhwydd, a nodi patrymau ac amrywiadau. Hefyd, darperir proffil cyfwerth ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, gan gopïo'r fformat a ddefnyddir yn y proffiliau ward lle y bo modd.
Mae fersiynau diweddaraf y proffiliau (Chwefror 2020) yn ymgorffori nifer o ffynonellau gwybodaeth ystadegol, gan gynnwys:
- Amcangyfrifon poblogaeth blynyddol lefel ward (canol 2018), ynghyd â dadansoddiad cyffredinol o oed/rhyw, dwysedd poblogaeth a newid poblogaeth (Swyddfa Ystadegau Gwladol/SYG)
- Cyfraddau genedigaethau a marwolaethau (SYG, 2018)
- Amcangyfrifon cyflogaeth gweithleoedd (SYG, 2018) a phrif gyflogwyr yn y ward
- Prisiau gwerthiannau tai cyfartalog yn ôl math o eiddo (SYG, 2018-19)
- Stoc anheddau'n ôl Band Treth y Cyngor (Asiantaeth y Swyddfa Brisio, Mawrth 2019)
- Amcangyfrifon incwm aelwyd cyfartalog ar lefel Ardal Cynnyrch Ehangach Canol (SYG, 2015-16)
- Ystadegau diweddar ar fudd-daliadau sy'n gysylltiedig â gwaith ac incwm (AGPh/SYG, Awst 2019).
Mae'r proffiliau hyn hefyd yn cynnwys ystadegau lefel ward o Gyfrifiad 2011 (SYG), gan gynnwys data cryno ar nodweddion poblogaeth, cyfansoddiad aelwyd, math o dai a deiliadaeth, NS-SeC (safle economaidd-gymdeithasol yn seiliedig ar feddiannaeth) a gweithgarwch economaidd.
Mae'r proffiliau hefyd yn cynnwys y safleoedd lleol diweddaraf (2019) o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (Llywodraeth Cymru), gwybodaeth gyd-destunol am ddatblygiad pob ward, tai, mapiau lleoliad a gwybodaeth arall, gan gynnwys y Cynghorwyr sydd wedi'u hethol ym mhob ward ar hyn o bryd.
Mae gwybodaeth ystadegol ychwanegol am y 36 ward, a Dinas a Sir Abertawe ar y cyfan, ar gael yn rhywle arall ar y tudalennau 'Ystadegau', gan gynnwys data a phroffiliau manylach Cyfrifiad 2011, ystadegau'r farchnad lafur lefel ward (ar dudalen 2 y bwletin) a rhagor o wybodaeth o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Mae proffiliau tebyg ar gyfer y tair Ardal Etholaethol (Seneddol / Cynulliad), chwe Ardal Gymunedol (a ddefnyddiwyd yn Asesiad o Les Lleol Abertawe 2017) a'r pum Ardal Gyflawni yn Abertawe (clystyrau Cymunedau'n Gyntaf gynt) hefyd ar gael.
RRydyn ni'n ystyried ffyrdd o ddatblygu a gwella'r proffiliau ward yn rheolaidd, felly bydden ni'n croesawu unrhyw adborth neu awgrymiadau.