Ynghylch Cyfrifiad 2021
Diwrnod y Cyfrifiad oedd dydd Sul 21 Mawrth.
Arolwg sy'n digwydd unwaith bob 10 mlynedd yw'r cyfrifiad ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae'r cyfrifiad yn unigryw, ac nid oes unrhyw ffynhonnell wybodaeth arall yn gallu darparu cynifer o fanylion amdanom ni a'r gymdeithas rydym yn byw ynddi.
Ar ddechrau mis Mawrth 2021, anfonodd SYG lythyrau at bob aelwyd yng Nghymru a Lloegr yn ei gwahodd i gymryd rhan mewn Cyfrifiad ar-lein, ac yn egluro sut gallant gael mynediad at gymorth. Roedd holiadur y Cyfrifiad yn ceisio gwybodaeth am oedran, rhyw, cenedligrwydd, cefndir ethnig, iechyd, iaith, gwaith, addysg a nodweddion poblogaeth ac aelwydydd allweddol eraill. Defnyddir yr ystadegau a gynhyrchir i roi darlun o gymdeithas yn 2021, newid dros amser ac amrywiadau lleol.
Fel pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr, mae Cyngor Abertawe'n dibynnu ar wybodaeth y Cyfrifiad i nodi anghenion lleol a chynllunio'r broses o ddarparu gwasanaethau lleol. Yn ogystal, mae arian y llywodraeth ar gyfer y gwasanaethau hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â nodweddion a nifer y bobl yn Abertawe a gofnodir gan y cyfrifiad. Mae'r data hefyd yn cael ei ddefnyddio'n helaeth gan academyddion, busnesau, sefydliadau gwirfoddol a'r cyhoedd.
Drwy gymryd rhan yn y Cyfrifiad byddwch wedi helpu i gyfeirio penderfyniadau am wasanaethau sy'n llunio cymunedau lleol, gan gynnwys cynllunio, iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a thrafnidiaeth.
Mewn un ffordd neu'r llall, mae gwybodaeth o'r Cyfrifiad yn cyffwrdd â bywydau pob un person sy'n byw yng Nghymru a Lloegr. Mae'n helpu'r llywodraeth ac awdurdodau lleol i gynllunio ac ariannu gwasanaethau lleol, gan gynnwys ysgolion newydd, meddygfeydd a ffyrdd er enghraifft.
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sy'n cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr ac mae'n annibynnol ar y llywodraeth. Mae manylion personol yn cael eu diogelu gan y gyfraith ac mae gwybodaeth a gyhoeddir bob amser yn ddienw.
Mae canlyniadau cyntaf y Cyfrifiad ar gyfer Abertawe ar gael yn www.abertawe.gov.uk/Cyfrifiad2021_canlyniadau.
Am ragor o wybodaeth am y Cyfrifiad, ewch i'r wefan yn Cyfrifiad (SYG) neu ewch i wefan ymgyrch Cyfrifiad SYG yn www.cyfrifiad.gov.uk.