Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfrifiad 2011: Adroddiadau ac ymchwil

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth a dadansoddiad o Gyfrifiad 2011 ar nodweddion poblogaeth ac aelwydydd yn Abertawe.

Cyhoeddwyd prif amcangyfrifon cychwynnol Cyfrifiad 2011 ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ym mis Gorffennaf 2012.  Ers hynny, mae'r SYG wedi cyhoeddi ystadegau o Gyfrifiad 2011 ar gyfer ardaloedd lleol a phynciau penodol mewn cyfres o ddatganiadau fesul cam. 

Defnyddiwyd yr wybodaeth hon i lunio nifer o adroddiadau a nodiadau briffio sy'n canolbwyntio ar yr wybodaeth allweddol a'r ystadegau ar gyfer Abertawe.

Cyfrifiad 2011:  Datganiad Canlyniadau Cychwynnol (PDF) [124KB] (Gorffennaf 2012)

Mae'r canlyniadau cyntaf yn cynnwys cyfansymiau poblogaeth awdurdodau lleol a dadansoddiad oedran/rhyw o'r boblogaeth (wedi'u talgrynnu) yn ôl grwpiau oedran pum mlynedd.

Mae'r dadansoddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am gyfraddau ymateb, cydrannau amcangyfrifon y Cyfrifiad ar gyfer Abertawe, cyfyngau hyder, aelwydydd wedi'u meddiannu, preswylwyr sefydliadau cymunedol, amcangyfrifon o breswylwyr tymor byr y DU a'r cyfraddau cwblhau drwy'r rhyngrwyd.

Nifer y bobl ag ail gyfeiriadau yn Abertawe yn ôl oedran, rhyw, a math o ail gyfeiriad (gwaith / gwyliau / arall).

Mae rhagor o ystadegau a gwybodaeth o Gyfrifiad 2011 yn Abertawe hefyd ar gael o'r tudalennau gwe canlynol: 

Os oes gennych ragor o ymholiadau ynglyn â Chyfrifiad 2011 ac argaeledd data, cysylltwch â ni.


Mae'r defnydd o ddata'r Arolwg Ordnans yn y dogfennau ar y we-dudalen hon yn destun amodau a thelerau.

Close Dewis iaith