Cyllid a chyllideb
Datganiad Cyfrifon 2021/22 - Cyngor Abertawe
Mae Rheoliad 10(1) yn Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'u diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol bod Swyddog Cyllid Cyfrifol Cyngor Abertawe yn llofnodi'r datganiad cyfrifon ac yn rhoi dyddiad arno, ac yn ardystio'i fod yn cyfleu darlun gwir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn ariannol y mae'n ymwneud â hi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno. Yn ôl y Rheoliadau roedd yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 31 Mai 2022.
Nid yw'r Swyddog Cyllid Cyfrifol wedi llofnodi ac ardystio'r cyfrifon am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022, o ganlyniad i'r achos parhaus pandemig COVID-19. Bydd y datganiad cyfrifon yn cael ei baratoi, a bydd y Swyddog Cyllid Cyfrifol yn llofnodi ac yn ardystio'r datganiad cyfrifon, pan fydd pwysau uniongyrchol yr achos o COVID-19 wedi cilio.