Toglo gwelededd dewislen symudol

Datganiad o gyfrifon

Y Gyfriflen yw'r Crynodeb statudol o faterion ariannol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol a chaiff ei pharatoi'n unol â Chôd Ymarfer Cyfrifeg yr awdurdod lleol (ACOP).

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau (Cymru) 2014

Mae Rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwiliadau (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Cyngor Abertawe lofnodi a dyddio'r datganiad cyfrifon, ac ardystio ei fod yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n berthnasol iddi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 31 Mai 2024.

Oherwydd pwysau parhaus ar wasanaethau, nid yw'r Datganiad Cyfrifon ar gyfer 2023/2024 eto wedi'i gwblhau, felly nid yw'r Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi llofnodi a thystio'r cyfrifon ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024. Mae'r Awdurdod yn bwriadu cwblhau'r gwaith o baratoi'r Datganiad Cyfrifon Drafft erbyn 31 Awst 2024.

Diben y Gyfriflen yw darparu gwybodaeth glir am gyllid gyffredinol y cyngor ar gyfer etholwyr, trethdalwyr lleol, aelodau'r cyngor ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb, a dangos sut mae cyngor y ddinas wedi defnyddio arian cyhoeddus yn ystod y flwyddyn.

Mae'r Gyfriflen ar gyfer sawl blwyddyn ar gael isod.

Oherwydd natur dechnegol y dogfennau hyn, nid ydynt ar gael yn Gymraeg.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 31 Gorffenaf 2024