Cyllid chwaraeon
Sylwer: Mae arian y Gist Gymunedol a'r Grantiau Datblygu wedi'u gohirio oherwydd pandemig COVID-19.

Cronfa Adfer ar gyfer Clybiau a Sefydliadau Chwaraeon
Gall nifer o glybiau chwaraeon lleol yn Abertawe wneud cais yn awr am grantiau newydd o hyd at £1,500 i helpu'r ddinas allan o'r pandemig. Mae'r grant ar gael i glybiau a sefydliadau sydd naill ai'n hunanreoli meysydd y cyngor neu'n prydlesu tiroedd gan y cyngor.
Derbynnir ceisiadau grant o ddydd Llun 23 Awst i 30 Hydref 2021.
Am ragor o wybodaeth neu i ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r Chwaraeon ac Iechyd Abertawe.
Cronfa Cymru Actif
Nod Cronfa Cymru Actif yw diogelu a sicrhau cynnydd clybiau a sefydliadau chwaraeon cymunedol yng Nghymru drwy bandemig COVID-19 ac i'r dyfodol.
Mae'r gronfa eisoes wedi helpu llawer o glybiau a sefydliadau ledled Cymru i wynebu'r heriau a achoswyd gan y pandemig Coronafeirws. Bydd yn parhau i ddarparu cyllid i helpu clybiau i wynebu'r heriau hyn a sicrhau cynaladwyedd am flynyddoedd i ddod.
Gwnaed y gronfa £4 miliwn yn bosib drwy'r arian y mae Chwaraeon Cymru'n ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol.
Grantiau
Mae dau fath o grant ar gael sydd wedi'u creu i fynd i'r afael â gwahanol heriau a wynebir gan glybiau a sefydliadau.
Os ydych yn gwneud cais i'r gronfa, mae'n bwysig eich bod yn dewis y grant cywir ac yn gwneud eich cais yn berthnasol i'r grant hwnnw.
1. Diogelu
I helpu i ddiogelu clybiau a sefydliadau neu grwpiau cymunedol sydd mewn perygl ariannol di-oed o ganlyniad i bandemig COVID-19.
Bwriedir i'r grant hwn helpu sefydliadau na allant fodloni'u rhwymedigaethau ariannol oherwydd COVID-19. Er enghraifft, i dalu costau sefydlog (e.e. rhent a biliau cyfleustodau) nad yw refeniw yn eu cefnogi mwyach.
Mae grantiau diogelu o £300-£5,000 ar gael am gymorth brys.
2. Cynnydd
I helpu i sicrhau cynnydd drwy symud chwaraeon a gweithgareddau ymlaen i'r cam nesaf a chefnogi cynaladwyedd tymor hir.
Bwriedir i'r grant hwn helpu clybiau a sefydliadau cymunedol i:
- Fynd i'r afael ag anghydraddoldeb
- Creu datrysiadau tymor hir er mwyn bod yn fwy cynaliadwy
- Defnyddio ymagweddau arloesol
- Gall y Grant Cynnydd hefyd ariannu eitemau sy'n hanfodol er mwyn dychwelyd i chwarae.
Mae grantiau o £300 - £50,000* ar gael.
*Bydd angen i chi gyfrannu 10% ar gyfer grantiau dros £10k neu 20% am grantiau dros £25k.
Gwneud cais i Gronfa Cymru Actif ar-lein (Yn agor ffenestr newydd)
E-bostiwch Nia Parry i gael cymorth gyda'r grant hwn.