Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyllido torfol Abertawe

Rydym wedi ymuno â'r llwyfan cyllido torfol cenedlaethol Spacehive i lansio Cyllido Torfol Abertawe.

Beth yw Cyllido Torfol Abertawe?

Mae Cyllido Torfol Abertawe yn llwyfan lle gellir rhannu syniadau, grymuso cymunedau a chodi arian er mwyn datblygu prosiectau er budd Abertawe

Mae Cyllido Torfol Abertawe yn darparu cyfle i syniadau prosiect ddenu'r arian angenrheidiol yn haws, wrth alluogi pawb sy'n meddwl llawer am yr ardal gyfrannu gydag ernesau'n dechrau ar £2. Drwy gynnal ymgyrch cyllido torfol, bydd gennych y cyfle i gysylltu â'ch cymuned a sefydliadau megis cwmnïau mawr lleol neu gyflenwyr y cyngor a fydd efallai â diddordeb mewn cefnogi prosiectau naill ai drwy roi arian neu gyfrannu nwyddau, hyrwyddo etc.

Arian ychwanegol gan Gyngor Abertawe

Levelling up and funded by UK Gov logos - WEL.

Gallwch hefyd gyflwyno syniad i Gronfa Cyllido Torfol Abertawe. Os gallwch ddangos bod gennych gefnogaeth leol ar gyfer eich syniad, gallech dderbyn ernes gan Gyngor Abertawe o hyd at uchafswm o £5,000 y prosiect tuag at darged eich ymgyrch.

Mae Cyllido Torfol 2024 bellach ar agor

Mae'r dyddiad cau ar gyfer lansio prosiectau wedi'i ymestyn i 17 Ebrill 2024 er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ernes gan Gyngor Abertawe.

Yr hyn a gyflawnwyd hyd yma

Hyd yma mae dros 1,900 o breswylwyr, busnesau a sefydliadau eraill wedi dod ynghyd ochr yn ochr â'r cyngor i gefnogi 36 o syniadau - codwyd dros £350,000 ar draws Abertawe hyd yn hyn, ac mae hyn yn cynyddu'n ddyddiol. O lanhau traethau i gynlluniau e-feiciau, hybiau cymunedol a chynaeafu ffrwythau, mae Cyllido Torfol Abertawe yn helpu pobl i wireddu eu syniadau.

Rhagor o wybodaeth am brosiectau llwyddiannus hyd yn hyn: https://www.spacehive.com/movement/crowdfundswansea/projects (Yn agor ffenestr newydd)

Rhagor o wybodaeth

Ewch i www.spacehive.com/movement/crowdfundswansea (Yn agor ffenestr newydd) i gael rhagor o wybodaeth a sefydlu'ch tudalen prosiect. Mae arbenigwyr Cyllido Torfol Spacehive wrth law i roi'r holl gyngor y mae ei angen arnoch i ddechrau arni. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Gyllido Torfol Abertawe, e-bostiwch support@spacehive.com.

Sylwer mai Spacehive fydd yn cadw unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi ar ei gwefan ac yn berchen arni, nid Cyngor Abertawe. Gallwch weld polisi preifatrwydd Spacehive yn www.spacehive.com/privacypolicy (Yn agor ffenestr newydd) ac mae'n bosib y byddant yn rhannu data â ni - os felly bydd ein polisi preifatrwydd yn berthnasol.

Close Dewis iaith