Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth Ariannol Siediau Dynion 2025 / 2026

I gydnabod y wledd o sgiliau a phrofiad sydd ar gael mewn cymunedau, ac effaith gadarnhaol siediau dynion ar iechyd, lles a lleihau ynysu cymdeithasol, hoffai Cyngor Abertawe gynnig cymorth ariannol i'w datblygu ymhellach.

Grwpiau neu fentrau cymdeithasol yw siediau dynion (neu siediau menywod), sy'n cael eu sefydlu mewn cymunedau lleol, at ddiben rhyngweithio cymdeithasol a hyrwyddo lles cadarnhaol. Maent yn rheoli ac yn cynnal eu hunain. Mae'r olwg sydd ar y siediau unigol, a'r gweithgareddau a gynhelir ynddynt, yn dibynnu'n gyfan gwbl ar sgiliau a diddordebau'r grŵp.

Mae rhagor o wybodaeth, cymorth ac arweiniad ynghylch siediau dynion ar gael yng ngwefan UK Men's Sheds Association (UKMSA): https://menssheds.org.uk/

Rydym yn disgwyl:

  • i siediau dynion newydd gysylltu ag UKMSA cyn cyflwyno cais
  • i siediau dynion presennol barhau i gysylltu ag UKMSA.

1. Pwy sy'n gymwys i gyflwyno cais?

Cyrff cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu wirfoddol, y rhai hynny ag amcanion elusennol a sefydliadau preifat nid-er-elw.

2. Blaenoriaethau'r gronfa

Datblygu siediau dynion presennol ymhellach a helpu i sefydlu siediau dynion newydd yn Abertawe.

3. Sut i wneud cais

A wnewch chi lenwi'r ffurflen gais atodedig ac e-bostio'r wybodaeth ychwanegol angenrheidiol i tacklingpoverty@abertawe.gov.uk

Gall pedio â chyflwyno'r wybodaeth ofynnol arwain at oedi wrth asesu eich cais neu gall y cais fod yn anghymwys i'w ystyried.

4. Lefelau cyllid

Cyllid cyfalaf / refeniw

Dyrennir cyfanswm o £25,000 rhwng yr holl geisiadau llwyddiannus a chaiff pob cais ei asesu yn ôl ei deilyngdod.

Ni phennir isafswm nac uchafswm ar gyfer ceisiadau, ond rydym yn rhagweld y dyfernir grantiau gwerth hyd at £1,200.

E-bostiwch tacklingpoverty@abertawe.gov.uk os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno. Os hoffech wneud cais am fwy na £1,200, rhaid i chi gysylltu â ni cyn cyflwyno eich cais.

Bydd angen gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2026.

5. Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Sul 8 Mehefin 2025.

6. Meini prawf ceisiadau ac asesu

Caiff yr holl geisiadau eu hasesu yn unol â'r meini prawf isod a bydd angen i ymgeiswyr arddangos y canlynol:

  • Statws sefydliadol / amcanion elusennol (C2)
  • Y prosiect a'r effaith arfaethedig (C3, C4, C5 a C6)
  • Dadansoddiad ariannol llawn o'r cyllid y cyflwynwyd cais amdano (C7).
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Mai 2025