Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Hanfodion Ysgol (Grant Gwisg Ysgol - PDG - Mynediad yn flaenorol)

Bydd y cynllun ar gyfer blwyddyn academaidd 2025 / 2026 yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2025 ac yn dod i ben ar 31 Mai 2026.

 

Mae'r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i blant a phobl ifanc:

  • sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (PYDd)
  • Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), (rhaid iddynt fynychu ysgol yn Abertawe)
  • y rheini yr ystyrir nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus
  • mewn grwpiau blwyddyn y Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11 (o Medi 2025)

*Nid yw disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau amddiffyn wrth bontio neu PYDd cyffredinol yn gymwys ar gyfer y cyllid hwn. Rhais gwneud cais am PYDd: Cais am brydau ysgol am ddim

Mae £125 ar gael ar gyfer pob dysgwr cymwys ac eithrio'r rheini ym Mlwyddyn 7, a fydd yn gymwys i gael £200.

Gellir gwario'r grant ar:

  • Wisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau;
  • Cit chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau;
  • Offer TG: gliniadur a thabledi YN UNIG (dim ond mewn sefyllfa gyfyngedig lle nad yw ysgol yn gallu benthyca offer i'r teulu y dylid defnyddio'r Grant Hanfodion Ysgol);
  • Gwisg ysgol ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: sgowtiaid; geidiad; cadlanciau; crefft ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawns;
  • Offer e.e. bagiau ysgol a deunydd ysgrifennu;
  • Offer arbenigol ar gyfer gweithgareddau'r cwricwlwm newydd fel Dylunio a Thechnoleg;
  • Cyfarpar ar gyfer teithiau y tu hwnt i oriau ysgol megis dysgu awyr agored e.e. dillad dwrglos;
  • Eitemau hanfodol nad ydynt yn wisg ysgol megis dillad i gefnogi mynediad at addysg awyr agored breswyl a'r cyfle i gymryd rhan ynddi.

Gellir gwneud ceisiadau ar gyfer y grant gwisg ysgol drwy Gyfrif Abertawe yn Gyfrif Abertawe Grant gwisg ysgol - ar-lein

Gellir gwneud ceisiadau o 1 Gorffennaf 2025 hyd at 31 Mai 2026 a gall gymryd hyd at 7 niwrnod i brosesu taliadau.

 

Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â schooluniformgrant@abertawe.gov.uk

 


GROW

Gwisg Ysgol - Newydd ac wedi'i hailgylchu

Mewn partneriaeth gydag ysgolion lleol yn Abertawe, rydym wedi sefydlu prosiect ABC123 sy'n ymwneud a gwisgoedd ysgol fforddiadwy. Derbyniwn wisgoedd nad oes eu hangen bellach, eu golchi ac wedyn yn eu hailwerthu am ffracsiwn o gost gwisgoedd newydd.

Ar hyn o bryd mae gennym nifer fawr o wisgoedd ar gael yn ein hadeilad yng nghanol y dref: Uned 12 Canolfan Siopa Dewi Sant, Abertawe ac mi fyddwn yn eich croesawu i ddod i weld beth sydd ar gael. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld neu fe allwch roi galwad ffon ar 01792 712888 neu 07494 966980

Ffôn: 01792 712888

E-bost: info@growcymru.org.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Mehefin 2025