Prydau ysgol am ddim
Os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau gallech arbed arian drwy hawlio prydau ysgol am ddim i'ch plentyn.
Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi plant y mae ganddynt hawl i brydau ysgol am ddim yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol hyd at ac yn cynnwys gwyliau'r Pasg 2022, yn ogystal â phlant y gofynnir iddynt hunanynysu gan yr ysgol neu'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogel. Bydd hyn ar ffurf taliad banc neu barseli bwyd ar gyfer gwyliau'r ysgol, a chynnig parseli bwyd ar gyfer y rheini y gofynnir iddynt hunanynysu. Os oedd eich plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim cyn COVID-19, nid oes angen i chi ailgyflwyno cais.
Mae gan blant y mae eu rhieni neu eu gofalwyr yn derbyn y taliadau cymorth canlynol yr hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim mewn ysgolion a gynhelir gan y cyngor. Mae'r term rhiant yn cynnwys rhywun sy'n byw yn y cartref fel partner i riant genedigol y plentyn.
- Credyd Cynhwysol os yw'ch enillion net blynyddol yn £7,400 neu lai*
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Elfen warantedig y Credyd Pensiwn Gwladol
- Cymhorthdal o dan ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Credyd Treth Plant lle bo'r incwm blynyddol (fel a aseswyd gan wasanaeth Refeniw a Thollau Ei Mawrhydi) yn llai na £16,190 y flwyddyn.
- Credyd Treth Gwaith 'dilynol' - dyma'r taliad y mae rhywun yn ei gael am bedair wythnos arall pan nad ydynt yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith (fel arfer pan fydd eu cyflogaeth yn dod i ben neu ar ôl iddynt ddechrau gweithio llai nag 16 awr yr wythnos). Ni fydd unrhyw fath arall o Gredyd Treth Gwaith yn eich gwneud yn gymwys am brydau ysgol am ddim.
Mae disgyblion sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm hefyd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
* Os ydych yn gweithio a hefyd yn cael Credyd Cynhwysol, a'ch bod am hawlio prydau ysgol am ddim i'ch plentyn/plant, efallai na fyddwch yn gwybod p'un a yw eich enillion yn fwy na £7,400 y flwyddyn. Pan fyddwch yn hawlio prydau ysgol am ddim, bydd eich awdurdod lleol yn cadarnhau eich bod yn gymwys gan ddefnyddio'r system gwirio cymhwysedd. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y system gwirio cymhwysedd yn gweithio allan a yw eich enillion islaw £7,400 y flwyddyn a ph'un a ydych yn gymwys i hawlio prydau ysgol am ddim i'ch plentyn/plant.
Mae'r broses yn gweithio trwy edrych ar enillion hawliwr am hyd at dri chyfnod asesu (AP) (yn dechrau â'r mwyaf diweddar a gweithio'n ôl).
Mewn achosion eraill, bydd angen i'r awdurdod lleol ofyn i chi gyflwyno prawf o'ch enillion a bydd yn gweithio allan a yw eich enillion yn fwy na £7,400 y flwyddyn neu £616.77 y mis (h.y. £7,400 wedi'i rannu â 12). Os yw eich enillion yn rhy uchel, ni fyddwch yn gallu hawlio prydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn/plant (er y gallwch wneud cais eto os bydd eich enillion yn lleihau).
Gallwch gael mwy o wybodaeth am brydau ysgol am ddim ar: Prydau ysgol am ddim - Llywodraeth Cymru
I gael cyngor ar Prydau ysgol am ddim gallwch e-bostio prydauysgolamddim@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 635353 rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cwestiynau cyffredin i rieni yn dilyn trothwy incwm UC newydd: Prydau ysgol am ddim yng nghymru: gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid (Llwodraeth Cymru) (PDF) [248KB]
Sut i gyflwyno cais am brydau ysgol am ddim
Y ffordd gyflymaf, hawsaf a rhataf yw cyflwyno cais ar-lein.
Cais am brydau ysgol am ddim Cais am brydau ysgol am ddim
Gallwch lawrlwytho a chwblhau'r ffurflen isod a'i hanfon drwy e-bost i prydauysgolamddim@abertawe.gov.uk. Gallwch gyflwyno unrhyw dystiolaeth gefnogol drwy e-bost hefyd.
Ffurflen gais am brydau ysgol am ddim (PDF) [224KB]
Beth os bydd fy amgylchiadau'n newid?
Os bydd eich amgylchiadau personol yn newid a allai olygu nad oes gennych hawl mwyaf i gael prydau ysgol am ddim, rhaid i chi roi gwybod ar unwaith. Dywedwch wrthym am newidiadau fel y canlynol:
- Dechrau gweithio ac nid ydych yn derbyn budd-daliadau mwyach
- Os ydych yn newid i fudd-dal gwahanol
- Symud cartref
- Os bydd un o'ch plant eraill yn dechrau ysgol am y tro cyntaf
- Os bydd eich plentyn yn newid ysgol hanner ffordd drwy dymor.
Prydau ysgol am ddim - rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Os na fyddwch yn dweud wrthym am newidiadau pan fyddant yn digwydd, efallai bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw brydau nad oeddech yn gymwys iddynt.
Penderfynu peidio â gwneud cais?
Wyddech chi fod Llywodraeth Cymru'n rhoi grant ychwanegol i bob plentyn y mae ganddo hawl i brydau ysgol am ddim ac yn eu hawlio? Gall fod yn fonws ychwanegol sylweddol i ysgol eich plentyn, felly cyflwynwch gais.
Mae prydau ysgol yn cynnig opsiwn iach gyda manteision maeth arwyddocaol, ac awgryma tystiolaeth ddiweddar fod cael pryd iach amser cinio'n gallu helpu i wella perfformiad a sylw plentyn yn ystod y dydd.