Prydau ysgol
Bydd pob disgybl sy'n mynd i ddosbarth Derbyn yn Abertawe ym mis Medi (2022) yn cael cynnig prydau ysgol am ddim.Mae Cyngor Abertawe'n gweithio'n agos gydag ysgolion i ymestyn y cynnig i grwpiau blwyddyn eraill cyn gynted â phosibl wrth i ni weithio tuag at weithredu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i bob disgybl ysgol gynradd dderbyn pryd ysgol am ddim erbyn 2024.
Nid oes angen i deuluoedd plant sy'n dechrau yn y Dosbarth Derbyn wneud cais am y cynnig prydau ysgol gan y byddant yn cael eu cofrestru'n awtomatig yn eu hysgol. Fodd bynnag, gall teuluoedd ar incwm isel fod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill fel Grant Gwisg Ysgol ac arian oddi ar dripiau ysgol. Er mwyn asesu cymhwysedd ar gyfer hyn, gellir gwneud cais am brydau ysgol am ddim yma.
Mae angen i rieni y cadarnheir eu bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wneud cais ar wahân am y grant gwisg ysgol o hyd.
Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan: https://llyw.cymru/hawliwch-help-gyda-chostau-ysgol
Mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod bwyta'n iach ar adegau rheolaidd trwy gyfuno brecwast yn y bore gyda chinio ysgol am hanner dydd yn gallu helpu plant i ddysgu yn well. Gellir darparu ar gyfer gofynion deietegol arbennig e.e. plant a chlefyd sellag a'r rhai a diabetes, ar gais. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion cynradd yn cynnig system ddi-arian drwy ddata ar y we neu fan talu yn eich siop leol. Bydd eich ysgol gynradd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am sut mae'n casglu arian cinio.