Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am ein prydau ysgol

Gwnewch y dewis iawn am y bwyd mae eich plant yn ei fwyta.

Mae hefyd yma i'ch helpu chi i wneud dewisiadau gwybodus am y bwyd mae eich plant yn ei fwyta a byddwch yn darganfod pam mae bwyta prydau ysgol wedi'u paratoi'n ffres yn syniad mor dda.

Dulliau Ysgol Gyfan

Mae ysgolion yn lleoliadau dylanwadol a gallant gyfrannu'n sylweddol at wella amgylchedd ac iechyd disgyblion, staff a'r gymuned ehangach.

Mae ysgolion yn ddylanwadol, a gallant gyfrannu'n sylweddol at wella amgylchedd a iechyd disgyblion, staff a'r gymuned ehangach.  Gall ysgolion gynyddu gwybodaeth am faterion bwyd a maethiad ac ymwybyddiaeth ohonynt, a gall hynny helpu i ddylanwadu ar arferion bwyta.  Gall ysgolion ddarparu bwyd maethlon o ansawdd da yn ystod y diwrnod ysgol.

Ceir tystiolaeth i gadarnhau mai dulliau ysgol gyfan yw'r ffordd orau o wella maethiad cyffredinol a bwyta'n iach ynlleoliad yr ysgol.  Mae'n llesol i blant a phobl ifanc dderbyn negeseuon cywir a chyson ar hyd y diwrnod ysgol, yn y dosbarth, yn ystalfell fwyta'r ysgol ac yn amgylchedd uniongyrchol yr ysgol.

Mae cynyddu gallu ysgolion i hybu maethiad iach yn elfen hanfodol o'r strategaeth leol er mwyn cynyddu iechyd a photensial dysgu plant a phobl ifanc, teuluoedd ac aelodau eraill o'r gymuned.

Mae ysgolion yn ffordd hynod effeithiol ac effeithlon o gyrraedd rhannau helaeth o'r boblogaeth.  Gellir cysylltu a phlant a phobl ifanc ar adegau dylanwadol yn eu bywydau, yn ystod plentyndod a llencyndod, pan fydd patrymau maethiad gydol oes yn cael eu ffurfio.

Mae polisiau cefnogol ysgolion yn rhoi fframwaith hollbwysig sy'n tywys ysgolion wrth iddynt baratoi, gweithredu a gwerthuso ymdrechion i hybu iechyd a maethiad.

Bwyd a Iechyd

Mae tystiolaeth ddiweddar o'r lefelau cynyddol o blant a phobl ifanc tew, gordew a diabetig yn y DU wedi arwain at ganolbwyntio ar fwyd a bywyd y grŵp poblogaeth hwn.

Mae tystiolaeth ddiweddar am y nifer cynyddol o blant a phobl ifanc dros bwysau, gordew a diabetig yn y DU wedi arwain at ganolbwyntio ar fwyd a ffordd o fyw y grwp hwn yn y boblogaeth.  Profwyd yn helaeth eisoes fod y perygl o ddioddef y cyflyrau a'r anhwylderau penodol hyn yn lleihau'n sylweddol yn sgil gyfuniad o ddeiet cytbwys a gweithgaredd corfforol.  Mae cysylltiad amlwg rhwng effeithiau hir dymor deiet gwael a diffyg ymarfer corff a pherygl cynyddol o ddioddef clefydau eraill megis clefyd coronaidd y galon a chancr.

Mae maethiad da yn helpu i atal rhai o brif broblemau iechyd heddiw ac mae'n caniatau oedolaeth a heneiddio iachach.  Mae maethiad da hefyd yn cryfhau potensial plant i ddysgu a'u lles cyffredinol.

Yn Abertawe, mae tystiolaeth fod deiet gwael yn arwain at rwymo cronig, anaemia a lefelau uchel o bydredd dannedd ymhlith plant a phobl ifanc lleol, (Asesiad Anghenion Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Abertawe, 2003/6).

Am hynny, mae mantais sylweddol o ran iechyd cyhoeddus i ddelio a'r rhwystrau i faethiad da a dewisiadau, arferion ac ymddygiad bwyta iachach yn gynnar mewn bywyd.  Mae datblygu a chefnogi arferion bwyta da ymhlith plant a phobl ifanc felly'n fuddsoddiad parhaol sy'n werth ei flaenoriaethu fel ymyrraeth iechyd cyhoedus effeithiol.

Gwybodaeth am alergenau ac anoddefiadau bwyd

Mae 14 o brif alergenau y mae angen eu datgan pan gant eu defnyddio fel cynhwysyddion.
Close Dewis iaith