Gwybodaeth am alergenau ac anoddefiadau bwyd
Mae 14 o brif alergenau y mae angen eu datgan pan gant eu defnyddio fel cynhwysyddion.
Oes gan eich plentyn unrhyw alergeddau neu anoddefiadau bwyd? Os oes, edrychwch ar ein bwydlen ddyddiol fel y gallwch wneud dewis gwybodus ar gyfer eich plentyn.
Mae'r dogfennau isod yn dweud wrthych ba alergenau sydd i'w cael yn y bwydydd rydym yn eu gweini ar ein bwydlenni ysgol cynradd. Er ein bod yn cymryd pob gofal, gall ambell gynnyrch gynnwys cnau.
Mae dau fand ysgol i'w cael, band A a band B, gan ddibynnu ar y cyfarpar cegin sydd ar gael yng nghegin yr ysgol. Gwiriwch isod i weld ym mha fand ysgol y mae ysgol eich plentyn.
Os yw'ch plentyn yn dioddef alergedd neu anoddefiad bwyd, rydym yn gobeithio y gall yr wybodaeth isod roi'r manylion i chi am alergenau yn ein bwydydd. Ni allwn ddileu'r perygl o groeshalogi yn gyfan gwbl wrth gynhyrchu'r prydau. Cysylltwch a chegin yr ysgol neu'r swyddfa arlwyo i drafod y fwydlen yn fanylach.
Os oes gennych ymholiadau, ffoniwch: 01792 773473.
Ysgolion band A
- Brynhyfryd
- Brynmill
- Christchurch
- Clydach
- Cwmglas
- Danygraig
- Gendros
- Glais
- Gors
- Gorseinon
- Mayals
- Morriston
- Oystermouth
- Pontlliw
- Seaview
- St Helens
- Terrace Road
- Townhill
- Trallwn
- Waun Wen
- YGG Brynymor
- Ynystawe
Ysgolion band B
Pob ysgol nad yw yng ngrwp Band A.