Toglo gwelededd dewislen symudol

Cais cynlluniau llawn ar gyfer rheoliadau adeiladu

Gallwch ddefnyddio hysbysiad cynlluniau llawn ar gyfer pob math o waith adeiladu. Bydd eich cynlluniau'n cael eu gwirio cyn i'r gwaith ddechrau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu.

Dylai cynlluniau llawn gael eu cyflwyno ar gyfer unrhyw adeiladau newydd, estyniadau neu addasiadau adeileddol mawr i unrhyw adeilad. Bydd angen i chi hefyd gyflwyno cynlluniau llawn os ydych yn creu ystafell newydd neu ystafelloedd mewn to. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar ein tudalen trawsnewid llofftydd.

Os ydych yn adeiladu estyniad un llawr bach, efallai bydd angen i chi gyflwyno hysbysiad adeiladu'n unig.

Sut mae gwneud cais

Dylech ffonio Rheoli Adeiladu Abertawe ar 01792 635636 neu e-bostio rheoliadeiladau@abertawe.gov.uk i gael dyfynbris cystadleuol. Mae gwybodaeth am sut i wneud taliad ar ein tudalen Ffioedd.

Bydd angen i chi gyflwyno cynlluniau i raddfa gan gynnwys manylion llawn. Efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio pensaer neu syrfëwr i wneud hyn.

Dylech gyflwyno'r ffurflen gais cynlluniau llawn â chynlluniau a dogfennau a'r ffi gywir. Ar gyfer gwaith domestig, dylech gyflwyno 2 gopi o'r cynlluniau hyn. Ar gyfer gwaith annomestig, dylech gyflwyno 4 copi o'ch cynlluniau.

You can apply by:

  1. sending your completed application to bcon@swansea.gov.uk. Payment can then be made over the phone by contacting 01792 635636.
  2. contacting us on 01792 635636 where a form can be filled in on your behalf and payment can be taken over the phone.
  3. posting the completed application to Swansea Building Control or bring it to the Contact Centre in the Civic Centre. Payment can either be taken over the phone or by cheque.

Beth nesaf?

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ffurflen a'r tâl gywir gallwn ofyn am fwy o fanylion gennych megis cyfrifiadau neu gynlluniau dylunio strwythurol. 

When you start work you need to contact us to tell us the work has begun by phoning 01792 635636. One of our officers will inspect the work as the build progresses. They will tell you if the work does not meet building regulations.

Find out when we will inspect your building work Inspecting your building work

Caniatâd cynllunio

Cofiwch, gall hefyd fod angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer y gwaith. Os felly, bydd angen i chi wneud cais a derbyn caniatâd cyn i chi ddechrau ar y gwaith. Mae ffurflenni cais a gwybodaeth ar gael ar ein tudalennau Cynllunio a rheoli adeiladu.

Nodiadau arweiniol ar gyfer cynlluniau llawn

Os ydych yn gwneud cais am reoliadau adeiladu dan y weithdrefn cynlluniau llawn, darllenwch y nodiadau arweiniol hyn.
Close Dewis iaith