Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg ddewisol yn y cartref - cyswllt cychwynnol

Ar ol derbyn hysbysiad fod plentyn i gael ei addysgu yn y cartref, bydd yr ALI yn ceisio cysylltu a'r rhieni/gwarcheidwad i drafod ei ddarpariaeth.

Dylid cynnal y cyfarfod hwn o fewn 4 wythnos ysgol i dderbyn yr hysbysiad. Dylid cynnal y cyfarfod mewn lleoliad sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr. Dylid rhoi'r cyfle i'r plentyn fod yn y cyfarfod, neu fel arall dylid rhoi cyfle iddo fynegi ei farn. Yn ystod y cyfarfod, dylai'r rhieni a chynrychiolydd yr ALI gytuno ar batrwm ar gyfer cyswllt yn y dyfodol.

Bydd y cyfarfod cychwynnol yn egluro rôl yr ALI wrth fonitro'r ddarpariaeth, yn ogystal â gwneud yn glir i'r rhieni, os ydynt yn penderfynu addysgu eu plentyn yn y cartref, eu bod nhw'n derbyn yr holl gyfrifoldeb ariannol dros addysg eu plentyn, gan gynnwys cost unrhyw arholiadau cyhoeddus, a bydd y plentyn yn parhau i dderbyn addysg addas tan ddwedd y cyfnod 'addysg orfodol' (h.y. dydd Gwener olaf mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd pan fydd y plentyn yn 16 oed).