Toglo gwelededd dewislen symudol

Timau Iechyd Meddwl Cymunedol

Fel arfer, caiff pobl â phroblemau iechyd meddwl eu cyfeirio i Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol gan eu meddyg.

Mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, sy'n cynnwys staff y gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd, yn gyfrifol am ardal Abertawe. Eu prif rôl yw darparu gwasanaeth asesu a chydlynu gofal i'r unigolion hynny â salwch meddwl difrifol neu barhaus sy'n effeithio'n sylweddol ar eu gweithrediadau a'u gallu i fyw eu bywydau beunyddiol. 

Y canlynol yw'r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol: 

De Abertawe: 01792 517800
Gogledd Abertawe: 01792 545780

Mewn argyfwng, cysylltwch â'r un pwynt mynediad drwy ffonio 111 a dewiswch 2 am y Gwasanaethau Iechyd Meddwl. 

Dylid cyfeirio pobl nad ydynt yn defnyddio'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar hyn o bryd drwy'r un pwynt mynediad. Ffoniwch 111 a dewiswch 2 am y Gwasanaethau Iechyd Meddwl. 
 

Enw
Timau Iechyd Meddwl Cymunedol
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Rhagfyr 2024