Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth cychwyn busnes i fusnesau

Gall dechrau busnes newydd fod yn bosibilrwydd cyffrous a brawychus ond rydym yn cydnabod bod busnesau newydd yn chwarae rhan bwysig yn ein heconomi leol.

Mae busnesau newydd yn cynnig y posibilrwydd o greu swyddi yn ogystal ag arloesedd a ffyrdd newydd o weithio. Os hoffech drafod eich cynlluniau cychwyn busnes a dysgu pa gymorth sydd ar gael, cysylltwch â'n tîm cymorth busnes.

Clwb Menter Dechrau Busnes Abertawe
Cymorth i fusnesau a sefydliadau cefnogi
Cael gafael ar gyllid
Benthyciadau cychwyn busnes
Caffael eiddo
Caniatadau
Partneriaid a rhwydweithiau

 

Clwb Menter Dechrau Busnes Abertawe

Bydd ein tîm cymorth busnes yn darparu clwb menter dechrau busnes misol i unigolion sydd naill ai'n dechrau busnes newydd yn Abertawe neu sydd wedi dechrau masnachu yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf. Bydd y sesiynau'n cael eu hwyluso gan arbenigwyr busnes lleol ar ystod eang o bynciau sy'n benodol i ddechrau busnes.

Gall y rheini sy'n bresennol hefyd gael mynediad at ein deunyddiau hyfforddi ar-lein am ddim, hysbysebu eu busnes ar ein Cyfeiriadur Busnes Lleol Abertawe a dod yn aelodau o'n grŵp rhwydweithio busnes.

Darganfyddwch pryd mae ein sesiwn nesaf a chofrestrwch (eventbrite) (Yn agor ffenestr newydd)

 

Cymorth i fusnesau a sefydliadau cefnogi

Busnes Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Mae Busnes Cymru yn cynnig amrywiaeth o gymorth dechrau busnes a chynllunio busnes. Mae hyn yn cynnwys adnoddau ar-lein, cymorth un-i-un, hyfforddiant, gweithdai a chymorth arbenigol.

Mae adran dechrau busnes gwefan Busnes Cymru yn cynnwys rhestr helaeth o daflenni ffeithiau a thudalennau hunanasesu i'ch helpu i nodi ai hunangyflogaeth yw'r dewis cywir, p'un a ydych yn barod i lansio eich menter newydd a pha feysydd y mae angen i chi eu hystyried wrth roi eich cynlluniau at ei gilydd.

Ymddiriedolaeth y Tywysog (Yn agor ffenestr newydd)

Os ydych rhwng 18 a 30 oed efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer Rhaglen Fenter Ymddiriedolaeth y Tywysog am ddim. Mae'r rhaglen yn cynnwys gweithdai ystafell ddosbarth, mynediad at fentoriaid busnes a chymorth wrth ddod o hyd i gyllid.

 

Cael gafael ar gyllid

Yn ogystal â sefydlu eich rhagolygon llif arian, pwyntiau prisio a chyllidebau goroesi personol efallai y bydd cymorth ariannol uniongyrchol ar gael i chi. Mae gennym dudalen bwrpasol sy'n canolbwyntio ar gyllid busnes: Cymorth ariannol

Lwfans Menter Newydd (Yn agor ffenestr newydd)

Mae'r Lwfans Menter Newydd yn gynllun gan y llywodraeth sydd wedi'i gynllunio i gefnogi unigolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol i hunangyflogaeth. 

Yn ogystal â derbyn lwfans am hyd at eich chwe mis cyntaf, bydd gennych fynediad at fentor busnes a all ddarparu cyngor ac arweiniad ar ddechrau eich taith fusnes.

I gael mynediad at y gwasanaeth hwn, siaradwch â'ch Hyfforddwr Gwaith Canolfan Byd Gwaith lleol.

 

Benthyciadau cychwyn busnes

Banc Datblygu Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru drwy ei gwneud yn haws i fusnesau gael y cyllid y mae ei angen i ddechrau, cryfhau a thyfu.

Mae'r cyllid sydd ar gael yn amrywio o £1,000 i £5m ac mae ar gael i fusnesau newydd ac i fyny. Bydd cyfraddau llog yn amrywio rhwng 4-12% ond maent yn sefydlog ar gyfer tymor eich trefniant.

Banc Busnes Prydain (Yn agor ffenestr newydd)

Mae Banc Busnes Prydain yn darparu benthyciadau personol diwarant o £500 i £25,000 ar gyfer dechrau neu dyfu busnes. Mae benthyciadau ar gyfradd llog sefydlog o 6% y flwyddyn gyda chyfnodau ad-dalu o rhwng 1 a 5 mlynedd. Cefnogir y cynllun hwn gan Lywodraeth y DU ac mae'n cynnwys 12 mis o fentora am ddim. 

Purple Shoots (Yn agor ffenestr newydd)

Gall Purple Shoots ddarparu benthyciadau busnes i entrepreneuriaid o Gymru. Gwahoddir ceisiadau gan unigolion a busnesau sydd â syniad busnes dichonadwy ond nad ydynt wedi gallu sicrhau cyllid. Mae micro fenthyciadau o hyd at £3,000 ar gael i fusnesau newydd a busnesau sy'n bodoli eisoes ar gyfradd llog uwch na'r farchnad.

 

Caffael eiddo

Y gofrestr eiddo

Er ei bod yn annhebygol y bydd angen safle sylweddol ar y rhan fwyaf o fusnesau newydd, gall natur eich busnes olygu bod angen eiddo pwrpasol arnoch yn hytrach na gweithio o'ch cartref. Mae rhestr o'r safleoedd sydd ar gael i'w gweld ar y rhestr ar ein tudalennau tir ac eiddo.

 

Caniatadau

Gweithio gartref

Os ydych yn defnyddio'ch cartref fel canolfan ar gyfer eich busnes, efallai y bydd angen i chi ystyried a ydych yn cael gwneud hynny.

Os ydych mewn llety rhent, naill ai drwy'r cyngor neu'n breifat, dylech holi'ch landlord cofrestredig cyn dechrau masnachu. Yn yr un modd, os ydych yn berchen ar eich eiddo dylech gysylltu â'ch darparwr morgais i sicrhau nad oes unrhyw gyfyngiadau arnoch i weithredu busnes o gartref.

Caniatâd cynllunio

Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid swyddogaeth lle yn eich cartref mewn rhai amgylchiadau. Gall y graddau y mae'r lle hwn wedi'i newid bennu'r camau y mae'n rhaid i chi eu cymryd. I gael rhagor o fanylion ynghylch a oes angen caniatâd cynllunio, gweler: Caniatâd cynllunio: canllawiau i fusnesau (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Ardrethi Busnes

Os yw eich busnes yn cael ei redeg o'ch cartref, fel arfer nid oes angen i chi dalu ardrethi busnes ar yr amod mai dim ond rhan fach o'r eiddo rydych yn ei defnyddio a/neu rydych yn gwerthu nwyddau drwy'r post. Manylion pellach am ardrethi busnes wrth weithio gartref: Ardrethi Busnes: gweithio gartref (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd) 

Os ydych yn bwriadu caffael eiddo busnes sy'n atebol am ardrethi busnes, gallwch wirio gwerth ardrethol y safle: Gwirio prisiad eich ardrethi busnes (Asiantaeth y Swyddfa Brisio) (Yn agor ffenestr newydd)

Unwaith y byddwch wedi caffael eich safle busnes, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer ardrethi busnes.

Cofrestru gyda CThEM

Gall bod yn hunangyflogedig, yn unig fasnachwr a gweithio i chi'ch hun ddod â goblygiadau i'ch incwm datganadwy. I wirio eich statws cyflogaeth ac a oes angen cofrestru'n benodol gyda CThEM, gweler y canllaw ar-lein canlynol: Gweithio i chi'ch hun (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)


Partneriaid a rhwydweithiau

Fel busnes newydd, gall rhwydweithio a chwrdd â busnesau eraill fod yn arf pwysig wrth ddatblygu'ch busnes. Mae ein tudalennau cyngor a chymorth yn cynnwys manylion rhwydweithiau busnes lleol: Cyngor a chefnogaeth bellach

Close Dewis iaith