Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Y tîm Gwasanaethau Digidol yn recriwtio prentisiaethau

Mae gan Gyngor Abertawe bum prentisiaeth newydd i'w cynnig yn ei dîm Gwasanaethau Digidol.

Guildhall

Guildhall

Bydd y swyddi'n rhoi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus sy'n awyddus i ddatblygu gyrfa ym maes TG ennill arian wrth iddynt ddatblygu sgiliau a phrofiad.

Mae prentisiaethau blaenorol yn yr adran wedi datblygu i swyddi amser llawn yn y cyngor ac mae rhai ohonynt wedi symud ymlaen i wneud cyrsiau gradd.

Gallwch ddod o hyd i'r swyddi, ynghyd â swyddi gwag eraill yn y cyngor, yn https://www.abertawe.gov.uk/swyddi

Y dyddiad cau ar gyfer y prentisiaethau digidol yw dydd Llun 18 Gorffennaf.

Meddai Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Dirprwy Arweinydd y cyngor, "Mae Cyngor Abertawe'n rhoi strategaeth digidol uchelgeisiol ar waith i wella'r ffordd rydym yn gweithio ar draws y cyngor i wasanaethu preswylwyr yn well.

"Mae prentisiaethau'n ffordd wych i unigolion ennill arian wrth iddynt ddysgu a byddwn yn annog y rheini sydd am gael gyrfa yn y maes hwn i ystyried cyflwyno cais.

"Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael hyfforddiant a chefnogaeth o'r radd flaenaf ac yn ennill gwybodaeth a phrofiad ar draws amrywiaeth o swyddogaethau TG y cyngor."