Toglo gwelededd dewislen symudol

Diogelwch Ffyrdd mewn ysgolion

Rydym yn helpu i addysgu plant o oedran ifanc am ddiogelwch ar y ffyrdd drwy ein gwaith gydag ysgolion.

Hyfforddiant i blant sy'n cerdded - Kerbcraft

Mae Kerbcraft yn gynllun hyfforddi i blant sy'n cerdded ar gyfer plant 5 - 7 oed, a gyflwynir mewn ysgolion ac o'u cwmpas.

Mae'n canolbwyntio ar dri model:

  1. Croesi mewn lle mwy diogel
  2. Croesi rhwng ceir sydd wedi parcio
  3. Croesi wrth gyffyrdd

Hyfforddiant beicio - Safon Genedlaethol Lefel 1 a 2

Mae hyfforddiant beicio lefel 1 a 2 wedi'i anelu at ddisgyblion Blwyddyn 6 ac mae'n eu paratoi i ddod yn ddefnyddwyr ffyrdd annibynnol:

  • cynhelir lefel 1 mewn amgylchedd oddi wrth ffyrdd a thraffig, fel arfer ar iard chwarae'r ysgol
  • cynhelir lefel 2 ar ffyrdd lleol gan roi profiad beicio go iawn i ddisgyblion

Ysgolion Uwchradd

Mae gwasanaethau a gwersi mewn ysgolion uwchradd yn darparu sgiliau diogelwch ffyrdd i ddisgyblion Blwyddyn 7 a 9 ar gyfer dewis opsiynau mwy diogel wrth groesi ffyrdd a sut i baratoi ar gyfer teithio annibynnol yn y dyfodol. 

Rhoddir cyngor cyn gyrru i ddisgyblion Blwyddyn 11 ac uwch yn seiliedig ar y 5 Angheuol: cyflymder amhriodol; gyrru diofal; gyrru dan ddylanwad alcohol/cyffuriau; risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio dyfais llaw wrth yrru; y gyfraith ynghylch gwregysau diogelwch.   

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.