Cymerwch gip ar ein traethau sy'n croesawu cŵn
Anogir perchnogion cŵn sy'n bwriadu mynd am dro hamddenol ar hyd y traeth yn Abertawe gyda'u hanifail anwes i wirio ei fod yn un sy'n croesawu cŵn.

Rhoddir y cyngor hwn gan Gyngor Abertawe'n dilyn ailgyflwyno'r is-ddeddf flynyddol ym mis Mai.
Mae'r is-ddeddf, sydd ar waith drwy gydol yr haf tan fis Hydref, yn cyfyngu cŵn i draethau penodol yn Abertawe a phenrhyn Gŵyr ac mae'n cynnwys rhannau o Fae Abertawe ynghyd â Bae Caswell a nifer o draethau eraill sy'n eiddo i'r cyngor.
Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Mae'r is-ddeddf yn ein galluogi i sicrhau bod pawb sy'n ymweld â'r traethau yn Abertawe'n gallu mwynhau'r hyn sydd ar gael.
"Mae'n golygu y gallwn greu nifer da o draethau sy'n croesawu cŵn i'r rheini sydd am fynd â'u hanifeiliaid anwes gyda nhw. Mae hefyd yn golygu bod rhai traethau, gan gynnwys rhannau o Fae Abertawe, yn barthau heb gŵn."
Mae presenoldeb yr is-ddeddf yn golygu os yw perchnogion cŵn yn mynd i draethau nad ydynt yn croesawu cŵn maent mewn perygl o dderbyn Hysbysiad Cosb Benodedig.
Ychwanegodd y Cyng. Hopkins, "Byddwn yn annog perchnogion cŵn i wirio pa draethau sy'n croesawu cŵn fel y gallant osgoi derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig. Nid cosbi perchnogion cŵn yw'r nod, ond rydym am sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau'r detholiad eang o draethau sydd ar gael."
Mae arwyddion wedi'u gosod ar hyd Bae Abertawe i'w gwneud hi'n haws i berchnogion cŵn wybod pa ran o'r traeth maen nhw'n cael mynd arni.
Gellir gweld rhestr lawn o'r traethau ar wefan y cyngor ac mae arwyddion wedi'u gosod ym mhob traeth sy'n dweud a yw cŵn yn cael mynd yno neu beidio.
Ewch i wefan y cyngor i gael rhagor o wybodaeth yn www.abertawe.gov.uk/cwnarytraeth