Toglo gwelededd dewislen symudol

Ansawdd dŵr ymdrochi

Mae ein dyfroedd arfordirol yn cael eu gwella'n sylweddol gan gynlluniau trin mawr a drud. Rydym yn monitro ansawdd dŵr i ddiogelu iechyd y cyhoedd, gan ddefnyddio safonau a sefydlwyd mewn Cyfarwyddeb Ewropeaidd.

Mae'r safonau'n diogelu iechyd y cyhoedd ond yn cydnabod bod dŵr môr yn amgylchedd amrywiol naturiol. Bydd tywydd gwael yn arwain at fwy o facteria.

Mae traethau Gŵyr yn bodloni safonau'r UE yn hawdd, ond mae Bae Abertawe ychydig yn gymhlethach. Ni fyddai Bae Abertawe'n gwella llawer mwy trwy beirianneg ddrud. Rydym yn defnyddio safonau'r UE i helpu i ragweld ansawdd y dŵr ym Mae Abertawe a hysbysu'r cyhoedd.

Ansawdd dŵr ymdrochi ym Mae Abertawe

Ym Mae Abertawe, datblygwyd model unigryw fel rhan o brosiect a ariannwyd gan yr UE, sef y prosiect 'Smart Coasts, Sustainable Communities' sy'n rhagfynegi ansawdd dŵr yn y man sampl dynodedig (gyferbyn â Neuadd y Ddinas).

Mae'r model yn gweithredu bob awr ac mae'r neges ragfynegiad yn cael ei diweddaru ar yr arwydd electronig a Twitter (dilynwch ni @SwanseaBayWater (Yn agor ffenestr newydd)) bob awr, bob dydd rhwng 8.00am ac 8.00pm yn ystod y tymor ymdrochi.

Mae'r neges yn dweud wrth y cyhoedd a yw ansawdd y dŵr yn dda neu'n wael, fel y gellir gwneud penderfyniad cytbwys ynghylch a ddylid nofio neu beidio.

Ansawdd dŵr ymdrochi ar draethau eraill gan gynnwys Gŵyr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn casglu data gwyddonol manwl ar lendid ein dyfroedd ymdrochi (traethau'n bennaf) bob blwyddyn rhwng mis Mai a mis Medi. Mae adroddiadau manwl ar gael ynghylch data ansawdd dŵr ymdrochi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. (Yn agor ffenestr newydd).

Close Dewis iaith