Toglo gwelededd dewislen symudol

Dwysedd poblogaeth

Ystadegau poblogaeth Abertawe ac ardaloedd lleol.

Mae amcangyfrifon dwysedd poblogaeth ar gael ar gyfer Abertawe a'i hardaloedd lleol, gan gynnwys wardiau ac Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is a Chanol (ACEHI ac ACEHG).  Mae'r ffigyrau hyn yn deillio o rannu'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol ag arwynebedd y tir mewn cilometrau sgwâr.  Mesurir arwynebedd y tir ar y penllanw cymedrig ac eithrir ardaloedd lle mae dŵr mewndirol, fel a argymhellir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Eurostat.

Cynhwysir ffigurau dwysedd poblogaeth (a'r amcangyfrifon cyfanswm poblogaeth ac arwynebedd tir ategol) yn y ffeil sydd ar y dudalen hon, sy'n cynnwys y taflenni gwaith canlynol ar wahân:

  • Dinas a Sir Abertawe, 1991 i canol 2024
  • Awdurdodau lleol yng Nghymru, canol 2024
  • Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn Abertawe, canol 2022*
  • Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol yn Abertawe, canol 2022*
  • Wardiau etholiadol yn Abertawe, canol 2022*

* Mae'r ffigurau hyn yn gyson ag amcangyfrifon poblogaeth diwygiedig awdurdodau lleol ar gyfer canol 2022 a gyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2025.  Mae disgwyl i'r amcangyfrifon poblogaeth a dwysedd ar gyfer ardaloedd bach gael eu diwygio a'u diweddaru yn ddiweddarach yn 2025.

Dwysedd Poblogaeth 2022-24 (Excel doc, 133 KB)

Dwysedd cyfartalog poblogaeth Dinas a Sir Abertawe yw 666 o bobl y cilometr sgwâr (amcangyfrif canol 2024), sef y pedwerydd uchaf o 22 o ardaloedd awdurdod lleol Cymru (cyfartaledd: 154 o bobl y cilometr sgwâr).  Yn Abertawe, mae amcangyfrifon dwysedd poblogaeth lleol yn amrywio'n sylweddol gan ddibynnu ar y ddaearyddiaeth ardaloedd bach a ddefnyddir:

  • Ar gyfer wardiau, mae gwerthoedd yn amrywio o 32 o bobl y cilometr sgwâr (ar gyfer ward Gŵyr) i 6,480 o bobl y km sgwâr (ward Uplands).
  • ACEHG: o 49 o bobl y km sgwâr (Abertawe 030 - 'Gorllewin Gŵyr') i 8,991 o bobl y km sgwâr (Abertawe 026 - 'Brynmill').
  • ACEHI: o 29 o bobl y km sgwâr (ACEHI Gŵyr 2) i 15,385 o bobl y km sgwâr (ACEHI 'Uplands 9').

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr amcangyfrifon dwysedd poblogaeth neu ystadegau poblogaeth eraill, cysylltwch â ni.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 18 Awst 2025