Toglo gwelededd dewislen symudol

Dyletswyddau gwarchodwr

Meini prawf ar gyfer y rôl.

Cyffredinol

Mae dyletswydd gyntaf y gwarchodwr i'r plentyn sydd yn ei ofal. Pan fo'n gweithredu yn ei rôl fel gwarchodwr ni ddylai gyfawni unrhyw weithgaredd a allai ymyrryd â pherfformiad ei ddyletswyddau. Mae angen i warchodwr weithredu fel gwarcheidwad cyfrifol ar ran y rhieni pan fo'r plentyn yn ei ofal h.y 'in loco parentis'. Dylai'r gwarchodwr arfer y gofal y disgwylir yn rhesymol i riant da ei roi i'r plentyn hwnnw.

Mae'n swydd o gyfrifoldeb ac ymddiriedaeth. Yn bennaf, rhaid deall bod lles plentyn sy'n gweithio ym myd adloniant, yn enwedig pan fydd y plentyn ar daith ac felly i ffwrdd o'i gartref a'i rieni, yn dibynnu'n bennaf ar y gwarchodwr gan ei fod mewn sefyllfa i warchod y plentyn rhag caledi, anghyfleustra neu berygl angheuol posibl. Pe bai gwarchodwr yn teimlo ar unrhyw adeg fod amodau neu ddisgwyliadau'r cyflogwr (gan gynnwys addasrwydd y sgript) yn anaddas, dylid rhoi gwybod i'r awdurdod lleol (ALI) cyfrifol am ei bryderon.

Pan fydd y plentyn yn lleoliad y perfformiad bydd dyletswyddau penodol y gwarchodwr yn amrywio'n ddibynnol ar natur y perfformiad. Os bydd y plentyn yn gweithio yn y theatr, gwyddys ymlaen llaw yr adegau y bydd angen iddo fod yn y theatr ac ar y llwyfan a rhaid i'r adegau hyn gydymffurfio ag anghenion Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015 (gweler y tabl atodedig). Prif ddyletswyddau'r gwarchodwr fydd sicrhau bod y plentyn, pan nad yw'n perfformio (gan gynnwys y cyfnod rhwng perfformiadau os oes dau berfformiad ar yr un diwrnod ac nid yw'n mynd adref neu i'w lety), yn cael ei oruchwylio'n addas a bod ganddo brydau digonol a digon o amser i orffwys a hamddena.

Gall plenty sy'n ymddangos mewn ffilm fod yn y stiwdio neu'r lleoliad am y rhan fwyaf o'r diwrnod. Trwy gydol yr amser hwn mae'r gwarchodwr yn gyfrifol amdanol, ac eithrio pan mewn gwersi, a'i gyfrifoldeb ef yw mynd gyda'r plentyn o'r ystafell newid neu'r ystafell ddosbarth i'r set a mynd ag ef yn ôl i'r ystafell newid neu'r ystafell ddosbarth, ynghyd ag aros ar y set tra bydd y plentyn yno. Mae'n ofynnol i'r gwarchodwr gadw cofnod o'r cyfnodau mae'r plentyn ar y set a'r cyfnodau y mae'r plentyn yn ymarfer ac yn perfformio er mwyn sicrhau cydymffurfiant â'r cyfnodau a ganiateir o dan y rheoliadau. Dylai'r gwarchodwr hefyd sicrhau bod y plentyn yn derbyn y deibiau angenrheidiol ar gyfer gorffwys a bwyta. Dylai'r gwarchodwr sicrhau bod gan y plentyn gyfleoedd addas ar gyfer gweithgareddau hamdden a'i fod wedi'i ddiogelu rhag straen, tywydd gwael ac unrhyw amodau eraill posib a all ei niweidio.

Os bydd y plentyn oddi cartref, y gwarchodwr sy'n gyfrifol amdano trwy gydol cyfnod y drwydded. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod llety'r plentyn yn foddhaol ym mhob ffordd; a sicrhau ei fod yn cael ei ddifyrru yn ei amser rhydd; ac yn gyffredinol, dylai'r gwarchodwr ei oruchwylio'n fwy na fyddai'n debygol o'i wneud pe bai'r plentyn yn byw gartref.

Trwyddedau

Rhaid i'r gwarchodwr fod yn gyfarwydd ag amodau'r drwydded a roddir gan yr awdurdod lleol a sicrhau, hyd eithaf ei allu, y bodlonir yr amodau hynny. Rhaid iddo fod yn gyfrifol am yr holl drwyddedau a thystysgrifau geni (os oes rhai) ar gyfer gwarchodaeth ddiogel a'u cyflwyno ar gyfer arolygiad pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog awdurdodedig.

Iechyd

Ni ddylid caniatáu i unrhyw blentyn berfformio pan fydd yn wael. Os yw plentyn yn mynd yn wael neu'n cael ei anafu pan fydd dan ofal y gwarchodwr neu athro, dylid ffonio meddyg a rhaid i ddeiliad y drwydded roi gwybod i'r rhiant a enwir ar y ffurflen gais a'r awdurdod lleol ar unwaith. Caiff y plentyn ei dynnu'n ôl o'r perfformiad nes i feddyg ei archwilio a chadarnhau ei fod yn ddigon iach i berfformio. Os bydd angen anfon plentyn adref, rhaid darparu hebryngwr addas.

Cyn belled â phosib, dylai'r plentyn gael o leiaf awr o ymarfer corff yn yr awyr agored bob dydd.

Dyletswyddau allanol y gwarchodwr

Ni ddylai'r gwarchodwr ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a fydd, ar unrhyw adeg, yn ei wahanu oddi wrth y plentyn neu a fydd yn ymyrryd â goruchwyliaeth briodol y plentyn sydd yn ei ofal.

Goruchwyliaeth

Ac eithrio pan fydd y plentyn yn perfformio neu pan fydd gydag athro cymeradwy, rhaid i'r plentyn fod dan oruchwyliaeth y gwarchodwr o'r adeg y bydd y plentyn yn cyrraedd y theatr nes iddo ddychwelyd, ar ddiwedd y perfformiad olaf, i ofal ei rieni neu oedolyn cymeradwy arall a fydd yn mynd ag ef adref. Gweler hefyd 'Gwarchodwr i fynd gyda'r plant'.

Rhaid i'r gwarchodwr sicrhau bod yr holl blant yn ei ofal yn dadwisgo, yn newid ac yn gwisgo yn eu hystafelloedd newid eu hunain.

Cyfathrebu â phlant

Rhaid i'r holl gyfathrebiadau a wneir â'r plant yng ngofal y gwarchodwr, boed yn ysgrifenedig neu fel arall, gael eu gwneud drwy'r gwarchodwr.


Bydd y dyletswyddau ychwanegol canlynol yn berthnasol pan fydd plant ar daith:

Gwarchodwr i fynd gyda'r plant

Rhaid i'r plentyn fod dan oruchwyliaeth barhaus y gwarchodwr. Rhaid i'r gwarchodwr fod gyda'r plentyn ar bob adeg pan fydd y plentyn hwnt ac yma ar y strydoedd. Rhaid i'r gwarchodwr drefnu iddo'i hun gysgu yn yr un tŷ ag y mae'r plentyn yn cysgu ynddo, ac mewn ystafell sy'n agos at ystafell breswyl y plentyn. Os na all wneud hyn, dylai oedolyn cyfrifol arall gael ei benodi gan y gwarchodwr, mewn partneriaeth â'r cyflogwr, er mwyn cyflawni'r ddyletswydd hon. Fel arall, dylai'r gwarchodwr ymweld â'r tŷ bob dydd beth bynnag. 

Llety

Rhaid i'r gwarchodwr gymryd gofal arbennig i sicrhau ymlaen llaw fod y llety y mae'r plentyn yn aros ynddo'n addas ac yn gyfforddus iddo. Rhaid i'r gwarchodwr hefyd sicrhau bod yr awdurdod lleol cyfrifol yn cymeradwyo'r llety. Ni ddylid caniatáu i fwy na dau blentyn gysgu yn yr un gwely. Rhaid i'r llety fod yn lân, yn olau ac wedi'i awyru'n dda a'i leoli mewn man a fydd yn osgoi unrhyw deithiau sy'n fwy na 45 munud rhwng y llety a'r theatr gan y plentyn.

Os na ddewisir y llety gan y gwarchodwr, yna wrth gyrraedd y llety rhaid iddo ei archwilio ar unwaith ac adrodd i gyflogwr y plant yn ddi-oed os yw'n ei ystyried yn anaddas mewn unrhyw ffordd. Dylai pob plentyn gael bath o leiaf unwaith yr wythnos.

Bwyd

Dylid gwneud trefniadau i roi bwyd iach a maethlon i'r plentyn yn y llety. Gellir hefyd roi llaeth twym neu goco etc i'r plentyn cyn iddo fynd i'r gwely. Pan fydd y plentyn yn bwyta ei brydau y tu allan i'r llety, dylent gael eu darparu ar yr adegau arferol, dylent fod yn addas a digonol a dylai fod gyda'r gwarchodwr neu oruchwyliwr awdurdodedig.

Addysg

Ac eithrio pan fydd yr ysgol ar gau, rhaid i'r plentyn fynychu'r ysgol bob wythnos yn llawn amser oni bai fod trwydded y plentyn yn nodi fel arall, neu fod y plentyn yn derbyn addysg ddigonol gan athro cymeradwy - yn yr achos hwn rhaid darparu ystafell addas ar gyfer addysg y plentyn. Wrth gyrraedd pob tref, dylai'r plentyn gael ei gyflwyno i'r ysgol neu i'r athro cymeradwy bob bore dydd Llun a dylid cyflwyno ei lyfrau cofnodi i'r Pennaeth. Dylid casglu'r llyfrau pob prynhawn dydd Gwener neu wrth adael y dref. Wrth wneud hyn, dylai'r gwarchodwr fodloni ei hun fod y gwaith angenrheidiol wedi'i gyflawni. Ar ôl i gyflogaeth y plentyn orffen, rhaid anfon y llyfrau cofnodi at swyddog trwyddedu'r awdurdod lleol.

Cynilion

Dylai'r swm o arian o arian y cytunwyd y dylai'r plentyn ei gynilo gael ei roi yn y banc gan y gwarchodwr bob wythnos. Dylai'r llyfr banc gael ei gadw gan y gwarchodwr tan ddaw'r daith i ben, yna dylid ei ddychwelyd i'r cyflogwr. Ni ddylid caniatáu i'r plentyn godi unrhyw arian ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig a chyda chymeradwyaeth yr awdurdod lleol. Dylid cadw unrhyw dreuliau ychwanegol ar gyfer lletya, bwyd etc y plentyn ar wahân ac yn annibynnol ar dâl y plentyn er mwyn sicrhau, beth bynnag fo tâl y plentyn, y bydd y bwyd a'r llety'n cal eu darparun gywir.

Close Dewis iaith