Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwneud cais am eithriad i'r terfyn sachau du

Os ydych yn ailgylchu'r holl ddeunyddiau ymyl y ffordd a dderbynnir ac yn dal i lenwi mwy na thair sach ddu o wastraff na ellir ei ailgylchu, gallwch wneud cais am eithriad i osod sachau ychwanegol y tu allan.

Ni chewch roi unrhyw ddeunydd y gellir ei ailgylchu mewn sachau du neu ychwanegol er mwyn i eithriad gael ei ganiatáu.

Mae eithriadau ar gael ar gyfer:

  • gwastraff anifeiliaid anwes 
  • cewynnau tafladwy

Os caniateir eithriad, bydd yn ddilys am flwyddyn i ddechrau a gallai'ch gwastraff gael ei fonitro. Mae amodau a thelerau'n berthnasol.