Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffioedd rheoliadau adeiladu

Rhennir y ffïoedd rheoliadau adeiladu'n ffïoedd cynllunio ac archwilio, ffïoedd hysbysiadau adeiladu a ffïoedd rheoleiddio. Maent yn wahanol i bob math o waith.

Gan ddibynnu ar y math o gais rydych yn ei wneud, byddwch naill ai'n talu pan fyddwch yn gwneud cais neu'n cael eich anfonebu'n nes ymlaen. Gwiriwch y canlynol i sicrhau eich bod yn gallu talu ar yr adeg gywir:

  • cynlluniau llawn - mae'n rhaid talu ffi'r cynllun ar adeg cyflwyno'r cais ar gyfer y cynllun llawn
  • hysbysiadau adeiladu - mae'n rhaid talu'r ffi ar adeg cyflwyno'r hysbysiad adeiladu
  • ffioedd arolygu - anfonebir y rhain ar ôl i'r arolygiad cyntaf gael ei wneud
  • addasiadau i'r anabl - nid oes cost ar gyfer gwaith mewn adeilad sy'n rhoi mynediad a chyfleusterau i bobl anabl.

Cael dyfynbris

Os hoffech ddyfynbris am eich gwaith arfaethedig, ffoniwch y swyddfa ar 01792 635619 neu 635636.

Ffïoedd ar gyfer gwasanaethau eraill

Rydym yn cynnig nifer o wasanaethau rheoli adeiladu eraill. Ceir manylion y ffïoedd sylfaenol ar gyfer y gwasanaethau hyn yn y tabl isod.

Ffïoedd ar gyfer gwasanaethau eraill rydym yn eu darparu
Math o waithCyfanswm (ac eithrio TAW)TAWCyfanswm (gan gynnwys TAW)
Asesiadau risg tân (lleiafswm ffi)£464.00£116.00£580.00
Darparu gwybodaeth Rheoliadau Adeiladu--£34.00

Sylwer

Mae'r ffioedd asesiadau risg tân a nodwyd uchod ar gyfer adeiladau confensiynol. Cysylltwch â ni i gael dyfynbris ar gyfer adeiladau mwy cymhleth. Caiff adeiladau eraill eu hasesu'n unigol.

Talu eich ffïoedd

Gellir talu ffïoedd trwy unrhyw un o'r dulliau canlynol wrth ymweld â'r swyddfa:

  • arian parod
  • siec - Wedi'i gwneud yn daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe'
  • cerdyn credyd - Gallwn dderbyn Mastercard, Visa, Visa Electron a Maestro

Wrth gwrs gallwch anfon eich cais trwy'r post gyda siec. Peidiwch ag anfon arian parod trwy'r post.

Hefyd byddwn yn derbyn taliad cerdyn credyd dros y ffôn, ond bydd angen i chi anfon eich cais yn gyntaf fel y gallwn benderfynu ar y ffi.  Yna byddwn yn cysylltu â chi am eich manylion. Sylwer na ellir derbyn Visa Electron dros y ffôn.