Arddangosfa tân gwyllt Abertawe'n dychwelyd i San Helen
Disgwylir i filoedd o breswylwyr, teuluoedd a myfyrwyr fynd i Faes San Helen i wylio arddangosfa tân gwyllt flynyddol 'Gwledd i'r Llygaid' Cyngor Abertawe nos Fercher, 5 Tachwedd.

Bydd Cyngor Abertawe'n croesawu ei arddangosfa tân gwyllt flynyddol yn ôl ym mis Tachwedd, gyda thocynnau fforddiadwy o £4 os byddwch yn eu prynu ymlaen llaw - sef £14 yn unig am deulu o bump. Mae hynny'n rhatach ac yn fwy diogel na chynnal eich arddangosfa eich hun!
Bydd y gatiau'n agor am 5.00pm eleni ar gyfer y digwyddiad ar thema archarwyr, a bydd yr adloniant cyn y sioe yn dechrau am 5.30pm, cyn y brif arddangosfa tân gwyllt am 7.30pm. Mae tocynnau ymlaen llaw bellach ar gael i'w prynu ar-lein: www.croesobaeabertawe.com/tan-gwyllt-abertawe/
Bydd digwyddiad eleni'n cynnwys perfformiadau o sioeau fel sesiwn ddawns KPop Demon Hunters a symudiadau Marvel - Deadpool yn erbyn Wolverine. Bydd hefyd gyfle i gwrdd â'ch hoff archarwyr, gan gynnwys Bat Woman, Superman, Groot, Wonder Woman, Mr a Mrs Incredible, a llawer mwy. Yn ogystal, bydd mwy o dryciau bwyd eleni i gynnig digon o ddewis o ran bwyd a diodydd.
Meddai'r Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae ein harddangosfa tân gwyllt flynyddol yn ddigwyddiad allweddol yn rhaglen ddigwyddiadau Abertawe sy'n cynnig ffordd ddiogel i deuluoedd, myfyrwyr a phreswylwyr ddathlu noson tân gwyllt am gost isel.
Mae'r digwyddiad hwn, ynghyd â Gorymdaith y Nadolig a Gŵyl Croeso, yn rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i ddarparu digwyddiadau o safon i'n cymunedau, sy'n addas i deuluoedd, am gost isel neu am ddim."
Anogir y rhai sydd am ddod i gynllunio ymlaen llaw a chyrraedd yn gynnar, gan fod y digwyddiad bob amser yn hynod boblogaidd a gall fod yn brysur iawn. Er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn colli mas ar eiliad o'r cyffro, bydd llwyfan adloniant, stondinau bwyd, cerddoriaeth, a llawer mwy ar gael cyn i'r arddangosfa tân gwyllt ddechrau.
Mae tocynnau ar gael bellach. Er mwyn manteisio ar brisiau ymlaen llaw, archebwch eich tocynnau nawr drwy fynd i https://www.croesobaeabertawe.com/tan-gwyllt-abertawe/