Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhagor o gymorth ar gael gan grantiau tlodi bwyd

Mae gan elusennau, grwpiau gwirfoddol a grwpiau cymunedol sy'n mynd i'r afael â thlodi bwyd yn Abertawe gyfle arall i wneud cais am gymorth ariannol.

Swansea Council Logo (landscape)

Mae mwy o sefydliadau nag erioed o'r blaen wedi gwneud cais am gymorth gan Gronfa Tlodi Bwyd Cyngor Abertawe ac mae 23 wedi bod yn llwyddiannus yn y rownd gyntaf gyda'r grantiau a ddyfarnwyd yn amrywio rhwng £1,000 a £11,000. 

Mae ail rownd bellach wedi agor gyda dyddiad cau o 30 Medi.

Rydym yn croesawu ceisiadau am arian cyfalaf neu refeniw sy'n mynd i'r afael â materion sy'n perthyn i dlodi bwyd, gan gynnwys gwella darpariaeth bwyd mewn argyfwng, datblygu sgiliau coginio a maeth a phrosiectau a lleoliadau tyfu bwyd cymunedol.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, y Cyng. Alyson Pugh, "Mae'r cyllid hwn ar gael i gefnogi sefydliadau elusennol, gwirfoddol ac nid er elw i gefnogi llawer mwy o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd trwy wella mentrau bwyd cymunedol a'u helpu i fynd i'r afael â gwir achosion tlodi bwyd.

"O ganlyniad i'r rownd gyntaf o gyllid rydym yn cefnogi 23 o brosiectau hyd yn hyn eleni ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi rhagor ohonynt.

"Rwyf wedi fy synnu o weld y gwaith gwych a'r syniadau arbennig mae cynifer o sefydliadau wedi'u datblygu i fynd i'r afael â thlodi bwyd a byddwn yn annog grwpiau a allai elwa o hyn i gyflwyno cais ar gyfer y gefnogaeth hon."

Am ragor o fanylion a ffurflen gais, ewch i www.abertawe.gov.uk/grantTlodiBwydAbertawe2021 neu os hoffech drafod cais, e-bostiwch TacklingPoverty@abertawe.gov.uk

 

Close Dewis iaith