Campfa awyr agored am ddim ar gael yn Nhrallwn
Gall selogion ffitrwydd yn Nhrallwn anelu am eu parc lleol yn hytrach na mynd dan do i fwynhau eu hoff ymarferion cadw'n heini am ddim.

Mae'r ardal chwarae ddiangen ar bwys y ganolfan gymunedol leol wedi'i thrawsnewid yn gampfa awyr agored gyda chyfarpar sy'n addas i bob oed ac mae'n ychwanegu at offer tebyg sydd mewn tri pharc arall yn y ddinas.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Doedd neb yn defnyddio'r hen ardal chwarae yn Nhrallwn, felly roedd yn gwneud synnwyr ei throi'n gampfa awyr agored y gall pobl ei defnyddio pryd bynnag yr hoffent, a hynny'n rhad ac am ddim.
"Ni fydd plant yn colli'r cyfle i'w defnyddio chwaith oherwydd mae 10 darn o gyfarpar ar eu cyfer nhw, yn amrywio o aml-gampfa i gyfarpar sgïo slalom a rhwyfo.
"Gall oedolion ddefnyddio peiriant cerdded, mainc eisteddiadau, beic pedal a pheiriant camu awyr - yr holl bethau y byddech yn disgwyl eu gweld mewn campfa dan do arferol."
Mae offer campfa awyr agored am ddim ar gael mewn lleoliadau eraill o gwmpas y ddinas gan gynnwys Llyn y Fendrod, Parc Ravenhill a Pharc Coed Bach Park yng Nghlydach.
Mae menter Trallwn yn rhan o ymrwymiad parhaus y cyngor i gefnogi teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw ac mae'n ychwanegu at fenter y parc sglefrio a'r trac pwmpio gwerth £2.8m a'r prosiect ardaloedd chwarae awyr agored gwerth £8m.
Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r fenter hon yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod gan gymunedau yn Abertawe fynediad at fannau diogel a chyffrous i gael hwyl yn yr awyr agored.
"Dywed yr holl arbenigwyr mor bwysig yw hi i blant allu defnyddio cyfleusterau chwarae awyr agored am ddim er mwyn cymdeithasu â ffrindiau a theulu. Mae'r adborth rydym yn ei gael gan ddefnyddwyr wedi bod yn wych ac mae'n dangos y gwahaniaeth y mae'r gwelliannau'n eu gwneud yn eu cymdogaethau.
"Mae'n rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi, cefnogi teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw a hyrwyddo lles ym mhob un o'n cymunedau."