Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybudd tywydd coch - Storm Darragh

Gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau'r cyngor a chau lleoliadau ac atyniadau yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd coch.

Amser o hyd i hawlio taliadau cymorth tanwydd

Mae degau o filoedd o deuluoedd ledled Abertawe wedi elwa o filiynau o bunnoedd mewn grantiau a thaliadau eraill i'w helpu drwy'r argyfwng costau byw.

Household Energy

Ond mae miloedd mwy sy'n gymwys am daliad cymorth tanwydd o £200 neu grant costau byw yn cael eu hannog i gyflwyno'u ceisiadau.

Ers dechrau'r flwyddyn, mae'r cyngor wedi talu bron £20m mewn grantiau i deuluoedd ac unigolion sy'n ei chael hi'n anodd, gan gynnwys mwy na 76,000 o daliadau costau byw, 40,000 yn rhagor o daliadau cymorth costau byw disgresiynol, 20,000 o daliadau tanwydd a 4,500 o daliadau i ofalwyr di-dâl

Cynhelir y cynllun taliadau tanwydd tan 5.00pm ar 28 Chwefror y flwyddyn nesaf ac mae'r cynllun cymorth costau byw disgresiynol yn cau ar ddiwedd mis Mawrth. Dylai unrhyw un sy'n meddwl y gall fod yn gymwys ond sydd heb wneud cais gyflwyno'u ceisiadau cyn bo hir.

Mae'r cymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at unrhyw daliadau tanwydd y gaeaf a wneir gan Lywodraeth y DU i bensiynwyr drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau.

Dywedodd Rob Stewart,  Arweinydd Cyngor Abertawe, y byddai'r rheini sy'n gymwys ar gyfer y grant yn cael eu talu cyn gynted â phosib.

Meddai, "Mae ein timau'n gweithio'n galed i sicrhau bod degau ar filoedd o deuluoedd Abertawe wedi elwa o'r cynllun yn barod. Ond gyda'r Nadolig a thywydd oer y gaeaf yn dod, rydym am wneud yn siŵr bod pawb sy'n gymwys ar gyfer help yn ei gael."

Mae rhagor o fanylion am y cynlluniau, y ffurflen gais ar-lein a chwestiynau cyffredin ar gael ar wefan y cyngor: https://www.abertawe.gov.uk/cymorthtanwydd

Mae unrhyw un sy'n gymwys i wneud cais am Daliad Cymorth Tanwydd Gaeaf, p'un a anfonir gwahoddiad iddo hawlio'r taliad ai peidio, yn gallu defnyddio'r ffurflen i wneud cais. 

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Rhagfyr 2022