Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwahardd aelodaeth o gyrff llywodraethu

Mae'n bwysig bod unrhyw un sy'n ystyried cyflwyno cais i fod yn llywodraethwr ysgol yn deall y gall rhai unigolion fod yn anghymwys i dderbyn y swydd hon.

Rhaid i'r datganiad gael ei lofnodi gan bob Llywodraethwr newydd er mwyn cadarnhau nad oes rheswm pam na ddylent ymgymryd a rol llywodraethwr ysgol.

Bydd person yn cael ei wahardd rhag bod yn llywodraethwr ysgol:

numbered options
1.  os yw'r person, ar y dyddiad penodi, yn aelod o gorff llywodraethu mewn mwy na dwy ysgol;
2.  os yw'r person wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu y dyfarnwyd atafaeliad o'i stad ac (yn y naill achos neu'r llall) nid yw ef/hi wedi cael ei ryddhau ac nid yw'r gorchymyn methdalu wedi cael ei diddymu na'i ddileu. Os yw'r person hwnnw wedi gwneud cyfamod neu drefniant gyda, neu ddyfarnu gweithred ymddiriedaeth ar gyfer ei gredydwyr a heb gael ei ryddhau mewn perthynas a hyn.
3.  os yw'r person wedi cael ei wahardd rhag gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cymni neu os oes ganddo orchymyn dan Adran 429 (2) (b) Deddf Methdalu 1986.
4.  os yw'r person wedi ei symud o swydd fel ymddiriedolwr Elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusennau neu'r Uchel Lys ar sail camweinyddu neu gamreoli wrth weinyddu'r Elusen.
5.  os yw'r person yn debygol o fod yn destun gorchymyn dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
6.(a)(i)os yw'r person hwnnw o fewn y 5 mlynedd diwethaf i garchar (wedi ei ohirio ai peidio) am gyfnod o 3 mis neu fwy heb opsiwn dirwy; neu
  (ii)os yw'r person hwnnw o fewn yr 20 mlynedd diwethaf wedi ei gael yn euog o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod o fwy na 2.5 flynedd; neu
  (iii)os yw'r person ar unrhyw adeg wedi ei gael yn euog o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garcher am 5 mlynedd neu fwy.
 (b) os yw'r person hwnnw o fewn y 5 mlynedd diwethaf wedi ei gael yn euog dan Adran 547 Deddf ddysg 1996 (niwsans ac aflonyddwch ar eiddo addysgol) a ddigwyddodd ar eiddo ysgol ac wedi ei ddedfrydu i ddirwy.

 

(Mae'r uchod yn grynodeb o ddarpariaethau Rheol 24 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005. Os ydych yn dymuno darllen y Rheoliadau, cysylltwch a'r Yr Uned Ysgolion a Llywodraethwyr.)

O dan amodau'r Rheoliadau hyn a chan gyfeirio at Atodlen 30 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, gall eich enw gael ei wirio i sicrhau nad yw ar y 'Rhestr Blant' a'r 'Rhestr Oedolion sy'n Agored i Niwed', sy'n rhestrau o athrawon a gweithwyr plant a phobl ifanc y gwaherddir neu y cyfyngir eu cyflogi. Os yw eich enw ar y rhestr, ni fyddwch yn gallu bod yn llywodraethwr na pharhau fel llywodraethwr. Er mwyn cynnal y gwiriad hwn, bydd angen eich dyddiad geni.