Toglo gwelededd dewislen symudol

Geogelcio

Rhowch gynnig ar geogelcio o gwmpas Abertawe a Gŵyr i weld beth gallwch ei ddarganfod!

Math o helfa drysor uwch-dechnoleg yw geogelcio sy'n defnyddio GPS ar eich ffôn neu dderbynnydd GPS i ddod o hyd i geogelciau. Mae llawer o gelciau wedi'u cuddio o gwmpas Abertawe a Gŵyr, yn aml mewn mannau hardd diarffordd.

Cynhwysydd dwrglos yw geogelc sy'n cynnwys llyfr log a phen fel y gallwch gofnodi'ch ymweliad. Yn aml cewch hyd i bethau bach neu roddion a osodwyd yno gan grëwr y celc.

Mae manylion am y celciau ar gael ar safleoedd fel www.geocachingwales.com (Yn agor ffenestr newydd) neuwww.geocaching.com (Yn agor ffenestr newydd)  a fydd yn rhoi awgrymiadau defnyddiol i chi a chyngor am ddechrau arni a'r hyn i ddisgwyl.

Close Dewis iaith