Plac Glas i Glendinning Moxham
Plac i goffáu'r pensaer siartredig a'r athro dylanwadol
Lleoliad y plac: i'r chwith o brif fynedfa Bristol Channel Yacht Club, y Mwmbwls.
Roedd Glendinning Moxham (1865-1946) yn bensaer a ddyluniodd lawer o adeiladau amlwg a nodedig Abertawe. Roedd yn un o hyrwyddwyr y mudiad Celf a Chrefft ac mae ei ddyluniadau cymesur a chain yn adlewyrchu hyn. Roedd yn gyfrifol am ddylunio rhai o adeiladau mwyaf eiconig Abertawe a'r cyffiniau.
Fe'i ganwyd yn Abertawe, yn fab i fasnachwr pren, Marcus Moxham, ac yn ŵyr i'r pensaer o Gastell-nedd, Egbert Moxham. Astudiodd ym Mhrifysgol a Choleg Celf Nottingham a hyfforddodd fel pensaer gyda Richard Charles Sutton o Nottingham. Teithiodd yn helaeth yn Ewrop a daeth yn bensaer siartredig ym 1887. Yn yr un flwyddyn, dechreuodd bartneriaeth â phensaer sefydledig o Abertawe, James Buckley Wilson. Roedd eu swyddfeydd yn rhif 39 Castle Street a thros y tair blynedd ar ddeg nesaf, dyluniwyd rhai o adeiladau mwyaf neilltuol y dref ganddynt, gan gynnwys y farchnad newydd ar Stryd Rhydychen.
Ar ôl marwolaeth Wilson ym 1900, parhaodd Glendinning Moxham i weithio ar ei ben ei hun. Mae ei ddylanwad ar amgylchedd adeiledig Abertawe yn sylweddol. Dyma rai o'r adeiladau mwyaf adnabyddus a ddyluniwyd ganddo:
- Oriel Gelf Glynn Vivian
- Adeilad YMCA ar St Helen's Road, Abertawe
- Pafiliwn Chwaraeon y Brifysgol ger Sketty Lane
- The London and Provincial Bank, Wind Street (tafarn y Bank Statement heddiw)
- Tŷ'r Olchfa, Sgeti (Miller and Carter Steakhouse bellach)
- The Midland Bank, Castell-nedd
- Ysbyty Gorseinon
- Ychwanegiadau at Ysbyty Cyffredinol Abertawe (Homegower House yn awr)
- Eglwys Santes Hilary, Cilâ
- Bristol Channel Yacht Club
Goruchwyliodd waith adfer ar sawl eglwys, gan gynnwys Eglwys Sant Paul, Sgeti; Eglwys Sant Barnabas, Waunarlwydd; Eglwys Sant Samlet, Llansamlet (dyluniodd y tŵr); Eglwys Sant Pedr, Pontardawe; ac Eglwys Dewi Sant, Ystalyfera Roedd llawer o'i gomisiynau hefyd yn dai preifat, yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn Uplands, Sgeti a Chilâ. Mewn rhai achosion, priodolwyd rhannau cyfan o strydoedd iddo, gan gynnwys Eden Avenue, oddi ar Glanmor Road, Abertawe.
Daliodd Glendinning Moxham nifer o swyddi yn ystod ei fywyd, gan gynnwys pensaer i Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu a llywydd Sefydliad Penseiri De Cymru, ac addysgodd bensaernïaeth hefyd yng Ngholeg Celf Abertawe. Cyflogodd brentis o'r enw Ernest Morgan, a fyddai'n ddiweddarach yn dod yn Bensaer Bwrdeistref Abertawe, y cyntaf i ddal y swydd, a bu â rhan yn y gwaith o ddylunio datblygiad Garden City yn Townhill.
Datgelwyd y plac ar 29 Awst 2025.
Sut i gyrraedd yno:
- Cyfeiriad: Bristol Channel Yacht Club, 744 Heol y Mwmbwls, Y Mwmbwls, Abertawe SA3 4EL
- What 3 Words: taller.fidgeting.agreed
- Llwybrau byssus agosaf: rhif 3, Abertawe i Fae Bracelet. Ewch i Amserau bysiau Abertawe i weld amserlenni.
- Meysydd parcio agosaf y Cyngor: Maes Parcio Knab Rock cyferbyn.