Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyswllt coll rhwydwaith Tregŵyr yn agor cilffyrdd bro Gŵyr i ymwelwyr

Mae llwybr teithio llesol newydd yn Nhregŵyr wedi'i agor yn swyddogol, gan olygu y gall preswylwyr, beicwyr, cerddwyr a theithwyr rheilffyrdd gyrraedd yr orsaf drenau a'r gymuned ehangach yn haws ac yn ddiogel.

gowerton bike route official opening

Mae'r cyswllt hirddisgwyliedig o Fairwood Terrace i orsaf drenau Tregŵyr bellach ar gael i'w ddefnyddio gan y cyhoedd, yn dilyn cymeradwyaeth ffurfiol gan Network Rail.

Mae'r prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru, yn nodi cam sylweddol arall ymlaen ar gyfer teithio cynaliadwy yn Abertawe.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Mae'r cyswllt newydd hwn yn ychwanegiad gwych i'n rhwydwaith teithio llesol ac yn hwb gwirioneddol i Dregŵyr.

"Bydd yn helpu preswylwyr, cymudwyr ac ymwelwyr i deithio'n haws ac yn fwy diogel, wrth gefnogi ein hymrwymiad i Abertawe wyrddach ac iachach.

"Rydym yn falch o gyflwyno prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pob dydd pobl ac yn annog mwy o gerdded a beicio i bawb."

Ychwanegodd, "Mae rhwydwaith teithio llesol Abertawe bellach yn cwmpasu dros 127km o lwybrau cerdded a beicio, gan gysylltu cymunedau a darparu gwell mynediad at gyflogaeth, addysg a gwasanaethau allweddol.

"Does neb yn Abertawe'n byw ymhell o'r rhwydwaith, ac rydym am annog pawb i ddefnyddio'r llwybrau hyn ar gyfer eu teithiau pob dydd."

Meddai'r Cyng. Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae manteision ein llwybrau teithio llesol i breswylwyr a thwristiaeth yn glir.

"Mae cerdded neu feicio ar ein llwybrau teithio llesol yn helpu i wella iechyd a lles ac yn lleihau tagfeydd ac allyriadau carbon drwy leihau dibyniaeth ar geir, yn enwedig ar gyfer teithiau byrrach.

"Mae'r cyswllt diweddaraf hwn yn fwy nag un lleol, byr, mae'n gyswllt gwych yr holl ffordd o Bontarddulais, drwy dref Gorseinon a phentref Thregŵyr a thu hwnt.

"Mae'n golygu y gall preswylwyr, cymudwr ac ymwelwyr gyrraedd yr orsaf a'r gymuned ehangach yn haws ac yn ddiogel. Mae'n gam mawr arall ymlaen ar gyfer teithio cynaliadwy yn Abertawe."

Mae Cyngor Abertawe'n parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau buddsoddiad ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol, gan helpu i adeiladu dinas fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Medi 2025